Thomas Gwilym Williams, 1912 - 1996
Isod ceir gasgliad o nodiadau a ysgrifennwyd gan Tomi Gwilym i gofnodi bywyd trigolion y pentref a'r digwyddiadau o fewn y gymuned leol. Trefnir y rhain mewn 3 categori ar wahân.
Cliciwch ar botwm isod i weld y rhestr o erthyglau o fewn y categori hwnnw
-
Atgofion am Tomi Gwilym gan ei Ferch Margaret
Ganwyd Dad ym Mlaenau Ffestiniog ar y 29ain o Chwefror, 1912. Ymfalchiai yn y ffaith ei fod wedi ei eni ar ddiwrnod naid, ac mai ef oedd y penshoniar ieuengaf yn yr ardal. Ymfudodd y teulu i Trefor Place yn y pentref pan oedd yn ieuanc iawn a mynychodd ef a’i frawd Dei ysgol y pentref. Gadawodd yr ysgol pan oedd yn 14 ac aeth i weithio i chwarael yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog. Soniai yn aml am y gymdeithas glos oedd yno ar cystadlu brwd yn y Caban ar amser cinio. Pan ddaeth y rhyfel ymunodd a’r Fyddin ac yno…
-
Atgofion Plentyn
Cofiaf, pan oeddym yn yr ysgol, byddai dyn y School Board yn dod o gwmpas pe bai rhywun yn aros adref o’r ysgol, ac roedd gennym oll ei ofn. O Penrhyn oedd yn dod. Hefyd, byddai nyrs yn dod o gwmpas i archwilio ein gwallt, i wneud yn siwr ei fod yn lân ac nad oedd dim byd yn symud ynddo! Daeth fy ffrind Trefor o Cefn Trefor â hoelen finiog o’r Efail i’r ysgol hefo fo rhyw dro ac, wrth chwarae hefo hi fe rwygodd nifer o dudalennau allan o lyfr. Cafodd y gansen am hynny wrth gwrs ac,…
-
Bws Chwarel
William Griffith Bryn Moel, - Y Gyrrwr Bws Mae’n debyg mai ychydig iawn o bobl heddiw sydd yn cofio’r dynion a arferai weithio yn y chwareli. 'Roedd William Griffith, Bryn Moel a arferai yrru bysiau yn yr ardal, yn dweud yr arferai 45 o ddynion fod ar y bws chwarel a chan nad oedd digon o le i eistedd i bawb, byddai’n arferiad i osod plancyn o bren ar hyd canol y bws er mwyn creu mwy o le i eistedd.
-
Byw yn y Barics
Byw yn y Barics - Llygod Mawr a Chwain 'Rydwi wedi clywed llawer o hanesion am chwarelwyr o Dalsarnau a arferai aros yn y “barics” ar hyd yr wythnos a dim yn dod adref dan bnawn Sadwrn. 'Roedden nhw’n teithio i lawr i Penrhyn neu Minffordd ar Dren Bach Ffestiniogac os nad oedd yna dren ar lein y Cambrian byddai raid iddynt gerdded gweddill y ffordd.
-
Bywyd Capel
Parch Garret Roberts Pan ddaeth Y Parch Garret Roberts i Dalsarnau fel gweinidog y Wesleaid, dwi’n meddwl mai yn y tridegau oedd hynny, ac roedd yn actor arbennig yn y pwlpud.
-
Cymeriadau Eraill
Gwr ac iddo barch mawr yn y pentref oedd Humphrey Owen, Draenogau Bach. 'Roedd ganddo geffyl a throl a chyn dyfodiad lori’r Cyngor ef oedd yn casglu’r ysbwriel. Ef hefyd oedd yn gwagio’r toiledau sych cyn dyfodiad y peipiau carthfosiaeth.
-
Cyn Cyfnod Yswiriant Gwladol
Roedd y rhan fwyaf o ddynion Talsarnau yn perthyn i gymdeithas gyfeillgar. Gan fod rhai o’r dynion yn gweithio yn y chwareli a dim ond adref i fwrw’r Sul, roeddent yn cynnal eu cyfarfodydd ar ddydd Sadwrn, ac roedd hyn cyn i’r bwsiau ddechrau rhedeg. Roedd gofyn i unrhyw aelod newydd ymddangos o flaen pwyllgor cyn y byddent yn cael eu derbyn a phan oedd aelod yn sâl roedd yn rhaid iddo fod yn y ty erbyn 7 o’r gloch, dyma oedd y rheolau ac nid oedd i wneud dim gwaith ac os torrai’r amodau byddai’n cael llai o…
-
David Jones Y Crydd
Pan oeddech yn prynu par o sgidiau gweithio cyn y rhyfel byddai’n cymryd dyddiau i ddod i arfer a nhw. Sgidiau hoelion oeddynt a byddai’n rhaid rhoi saim gwydd arnynt i’w meddalu gan eu bod mor galed. Byddaf yn meddwl yn aml am y dynion yn cerdded drwy’r Blaenau yn y bore tuag at Bwlch y Gwynt, roeddynt fel milwyr yn mynd a dod yn eu sgidiau hoelion.
-
Digwyddiadau
SYRCAS Pan oedd syrcas yn Bermo neu Harlech, byddent yn dod drwy'r pentref yn gynnar yn y bore ac wrth gwrs byddai'r plant i gyd allan a phan ddeuai'r eliffantod, byddent yn begera a byddai'r bobl yn rhoi digon o fwyd iddynt, ond roedd y llewod a'r teigrod mewn caets.
-
Gwasanaethau
GwasanaethauByddem yn cael ein dwr glan o ffynnon Gwndwn, mae’r ffynnon yno hyd heddiw a ffens o’i chwmpas. Deuai’r dwr o’r ffynnon i groni mewn llyn bach gyferbyn a Cefn Trefor Bach, a gellir ei gweld heddiw. (Nid yw i'w gweld bellach)
-
Gweithgareddau Diwylliannol
CYMANFA GANU Roedd y Gymanfa Canu yn boblogaidd iawn yn yr hen amser. Gallaf gofio pan oeddem yn ifanc, i fy mam fynd â ni i le bynnag y cynhaliwyd y Gymanfa, gan y cynhaliai'r Wesleiaid y Gymanfa mewn lle gwahanol bob blwyddyn, ac yn parhau i wneud felly ar raddfa lai.
-
Hen Adeiladau
Byddaf yn meddwl yn aml sut le roedd Talsarnau ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Does ond Cefn Trefor Fawr a Cefn Trefor Bach, Draenogau a Penbryn a’r hen le lle mae Caerffynnon rwan, ar y map.
-
Hiwmor Chwarel
Roedd llawer iawn o storiau da i’w clywed yn y chwarel a gallaf gofio un dda iawn. Roedd yna ddyn yn y Blaenau a dreuliau lawer iawn o’i amser yn y tafarndai a chafodd y gweinidog air gydag ef, addawodd ‘Nowtyn’ fel y’i gelwid, y byddai yn cadw draw oddi wrth y ddiod. Ond un noson . . . . .
-
Hyn a Llall
FFYNNON SION MORGAN Mae ffynnon adnabyddus o dan Soar a elwir Ffynnon Sion Morgan. Rwy'n sicr eu bod wedi cario dwr ohoni ar draws y Wern i'r hen Dolorcan.
-
Kelt Edwards
‘Rwyn cofio Kelt Edwards, yr Arlunydd, oedd yn trigo yng Nghei Newydd, yn dod yma a rhoi sialens i’r dynion oedd yno y gallai ferwi dwr mewn tecell papur. Gwnaeth decell papur a’i lenwi hefo dwr a gosod cannwyll odditano a gallaf dystio fod y dwr wedi berwi gan fy mod yno.
-
Llandecwyn
Yr hen enw ar Llandecwyn ydy ‘Pentre Bryn y Bwa Bach’ ac rwyf yn cofio y byddai fy nain, pan yn sôn am fynd i fyny i Landecwyn, yn sôn am fynd i Pentre Bryn Bwbach, roedden nhw wedi byrhau’r enw, ac weithiau byddent yn dweud eu bod yn mynd i fyny i Pentre.
-
Llanw Mawr 1927
Daeth y llanw drosodd ym 1927 ac aeth â balast y rheilffordd gydag ef, roedd y lein yn hongian mewn gwagle a thyllau mawr ble’r arferai’r lein fod. Roedd yna tua wyth troedfedd neu fwy o ddwr yn ein selar ni ac fe aeth a phopeth rhydd allan i ganol y caeau.
-
Manion
Canu Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf fe gynhyrchwyd Cantata yng Nghapel Soar – Cantata yr Adar, ac rwyf yn cofio May, Tynbryn yn cymryd rhan y gôg. Roedd yn arbennig a Tommy Williams (tad Kit) oedd yr hyfforddwr.
-
Murddunod yr Ardal
Mae’n chwith iawn gweld Llandecwyn heddiw gan nad oes nemor ddim pobl yn byw yno. Mae wedi newid cymaint yn yr hanner can mlynedd diwethaf.
-
Olwynion Dwr ac ati
Ffynnon Sion Morgan Mae ffynnon adnabyddus o dan Soar a elwir Ffynnon Sion Morgan. Rwy'n sicr eu bod wedi cario dwr ohoni ar draws y Wern i'r hen Dolorcan.
-
Pan Oeddem yn Blant
Pan yn blant byddem yn chwarae wrth ymyl yr efail, 'roedd ffos yn rhedeg o dan rhan o’r adeilad ond erbyn heddiw mae’r ffermwyr wedi gosod pibellau i’r dwr redeg y tu allan i’r adeilad.
-
Pedlars
Byddai dynion yn dod o gwmpas y tai yn gwerthu gwahanol bethau, y ‘tin man’ o Penrhyn oedd un. Byddai’n gwneud tuniau bwyd oedd yn ffitio i fewn i boced, a felly byddai’r chwarelwyr yn cario eu bwyd, ni fyddent byth yn cario bag ar eu hysgwyddau. Gallai wneud gwahanol bethau ar gyfer y gegin hefyd.
-
Potshieriaid
'Roedd yna lawer o botsieriaid ar ôl y ffesantod adeg hynny ac roedd weiren ar y ddaear yn Coed Mawr. Petae nhw’n digwydd ei gyffwrdd fe fyddai ergyd fawr a byddai raid iddynt ddianc reit sydyn.
-
Problem Cyfathrebu
Pan ddeuthum a’m gwraig yma i Dalsarnau yn 1946, roedd hi’n teimlo’n rhyfedd ar y cychwyn, am nad oedd hi’n deall Cymraeg. Rhoddodd mam lawer o gymorth iddi am y siaradai â hi yn Gymraeg bob amser ac roedd hynny am nad oedd ei Saesneg hi’n dda iawn.
-
Pytiau Diddorol
Tanau DirgelDigwyddodd llawer o danau rhyfedd ym Mhlwyf Llanfihangel yn y flwyddyn 1693. Aeth teisi gwair ar dân a chaed llawer o anifeiliaid yn farw ac ni chafwyd eglurhad er i’r ffermwyr fod ar wyliadwriaeth ddydd a nos.
-
Siopau
Siop y Post tua 2002 ‘Roedd sawl siop yn y pentref ers talwm. Cadwai Willam Rowlands y post, a byddai’n danfon nwyddau o gwmpas y ffermydd ac o’r stesion gyda cheffyl a throl. 'Rwy’n cofio brawd Rosie a tad Billy Roberts yn gweithio yno hefyd.
-
Teulu Caerffynnon
Byddai’r hen bobl yn son llawer am Mrs Holland Thomas, Caerffynnon a arferai ddod i’r ysgol i roi gwobrau a phresantau i’r plant ar adeg y Nadolig. Ac, wrth gwrs, pan oedd yn y pentref byddai’r gwragedd i gyd yn cyrtsio iddi.
-
Torri Coed a Thyfu Tatws
Torwyd llawer o goed i lawr yn stod y Rhyfel Byd Cyntaf. 'Rwyn cofio torri llawer o goed pin, derw ac onnen yn Winllan Penbryn. Byddai dau neu dri o geffylau yn tynnu ‘bogeys’ mawr i lawr i’r stestion i’w llwytho.
-
Y Chwarelwyr
Dyma enwau dynion o'r ardal oedd yn gweithio yn y chwareli Mae'n debyg nad oes llawer yn fyw heddiw sydd yn cofio'r dynion oedd yn arfer gweithio yn y chwareli. Rydwi am geisio rhestru enwau'r rhai oedd yn gweithio yn y chwareli rhwng 1926 a'r Ail Ryfel Byd. Mi gychwynai yn y pentref:
-
Y Traeth
Bob tro yr af am dro i lawr i gyfeiriad Traeth Cocos mi fyddai’n dod ar draws lwmp o lo yn aml iawn a byddaf yn cael fy hun yn meddwl tybed o ble daeth hwn a byddaf yn cofio fy nain yn sôn yn aml am enwau llongau a ddrylliwyd wrth groesi’r bar, rhai ohonynt yn siwr o fod yn cario glo.
-
Yn Llaw Fy Mam
Ty Gwyn y GamlasMi fyddai’n meddwl yn aml am Yr Ynys ac yn ceisio gwneud llun yn fy meddwl. Mae’n rhaid bod hi’n ardal brysur o gwmpas Ty Gwyn a Garreg Ro ac wrth gwrs, Clogwyn Melyn – Y Ferry Arms fel y’i gelwid bryd hynny a chyda’r holl longau yn cael eu hadeiladu mae’n rhaid ei fod yn lle diddorol, ac mae hanes fferi yn suddo yn 1860 gyda wyth o bobl yn colli eu bywydau.
-
Ynys Gifftan
Cwrs yr Afon Ddwyryd Roeddwn i’n siarad hefo Hugh Williams oedd yn byw ar Ynys Gifftan, ychydig flynyddoedd cyn iddo farw, am y newid yng nghwrs yr afon i’r ochr yma o’r ynys. Dywedodd Hugh mai’r tro diwethaf iddi ddod i’r ochr yma oedd yn 1940.
-
Yr Amseroedd Caled
TlodiRhwng y ddau ryfel roedd pobl yn dlawd iawn ac yn ei chael yn anodd i gael dau pen llinyn ynghyd ac o’r herwydd mi fyddai dynion yn gadael y ffermydd a’r chwareli ac yn anelu am Dde Cymru i weithio yn y pyllau glo gan y gallent wneud mwy o arian.
-
Yr Efail, Y Felin a'r Pandy
Yr Efail Roedd yna efail yn Yr Ynys ar un amser o’r enw Efail yr Ynys a dwi’n credu ble mae Minafon heddiw. Roedd un arall yn Llandecwyn a’r enw ar honno oedd Efail Fach ac roedd honno ble adeiladwyd Capel Wesla, Brontecwyn.