Tanau Dirgel
Digwyddodd llawer o danau rhyfedd ym Mhlwyf Llanfihangel yn y flwyddyn 1693. Aeth teisi gwair ar dân a chaed llawer o anifeiliaid yn farw ac ni chafwyd eglurhad er i’r ffermwyr fod ar wyliadwriaeth ddydd a nos.
Hela Llwynogod
Roedd gan fferm Ynysfor ger Llanfrothen haid o gwn hela, a gellid eu gweld bob blwyddyn ar hyd y lle yn hela er mwyn cadw niferoedd y llwynogod i lawr gan y byddai’r ffermwyr yn colli eu hwyn. Dwi’n cofio i mi fynd gyda nhw un tro a phan oeddynt ger Moel y Glo rhoddodd y gwyr oedd mewn gofal,ddaeargwn yng nghanol y creigiau a chododd llwynog. Daliwyd y cwn hela yn ôl er mwyn rhoi blaen da i’r llwynog, ac yna dechreuodd y ‘sbort’ fel y’i gelwid ond fe es i adref. Cefais glywed yn ddiweddarach i’r llwynog gael ei ddal yn ymyl Dolgellau yn hwyr gyda’r nos. Roedd y ffermwyr bryd hynny yn arfer mynd â gwartheg marw i Ynysfor i’w torri’n ddarnau gan fod gwaith bwydo ar gymaint o gwn.
Band Prês Talsarnau
Roedd yna fand prês yn Nhalsarnau yn yr hen amser ac roedd fy nain yn enwi rhai o’r aelodau imi. Dyma rai ohonynt: Salmon Jones,Dafydd Jones y crydd, a’i frawd John Jones. Fe fydden nhw’n gorymdeithio trwy’r pentref.
Dal Slywod
Mi fyddem ni yn dal slywenod mawr yn y cyt a mynd â nhw i Miss Jones, Cottage gan ei bod hi wrth ei bodd hefo nhw. Pan oedd deifiwr yn trwsio dorau’r clawdd llanw ger Ty Gwyn fe ddaliodd glamp o slywen ac aethom ni â hi i Miss Joes, ond diwedd trist sydd i’r stori gan i’r deifiwr golli ei wats pan yn dal y slywen!
Tynnu Coes yn y Chwarel
Dwi’n cofio i ni gael hwyl iawn un tro yn y chwarel. Mynd â chlamp o granc hefo mi mewn tun a gadael iddo ymlusgo allan. Roedd wynebau’r chwarelwyr yn werth eu gweld. Mae’n debyg na welodd rai ohonynt granc yn eu bywyd cyn hynny!
Manganis
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe fu cryn dyllu am fanganis yn y mynydd uwchben Llyn Eiddew Bach a’i gario i lawr i’r orsaf dren i’w gludo i ffwrdd ar y rheilffordd. Humphrey Williams oedd un a chanddo geffyl a throl. Cysgai rhai o’r dynion i fyny yna, ond dydwi ddim yn gwybod sut gyflwr oedd ar y lle.