Chwilio

Gwasanaethau
Byddem yn cael ein dwr glan o ffynnon Gwndwn, mae’r ffynnon yno hyd heddiw a ffens o’i chwmpas. Deuai’r dwr o’r ffynnon i groni mewn llyn bach gyferbyn a Cefn Trefor Bach, a gellir ei gweld heddiw. (Nid yw i'w gweld bellach)

Y Ffynnon - dros y ffordd i Cefn Trefor Isaf - o dan y ffordd 40 medr o'r Hen Felin Fach.  Ychydig yn uwch i fyny mae ffynnon o dan y wal ac o’r fan hyn y byddai’r tai cyfagos yn cael eu dwr. Dim ond Fron Yw a Cefntrefor Bach oedd yno bryd hynny. Byddai prinder dwr yno yn yr haf a byddent yn cael dwr o Esgairolwyn – rwyn meddwl mai yn y 30au yr oedd hyn. Byddai’n rhaid i ni gario dwr o gefn Brontrefor lle’r oedd hen ogof. Adeiladwyd argae yno i gadw’r dwr i fewn, roedd yn iawn ar gyfer golchi. ‘Rwy’n cofio pan oeddwn yn fachgen ysgol y byddai llawer o dai heb ddwr a byddai’n rhaid ei gario o dap oedd wedi ei osod mewn cwpwrdd yn y wal yng nghefn y swyddfa bost ar y ffordd stesion. Byddai’r hen bobl yn cario dwr yfed o ffynnon yng Nghae Brân a byddai mam yn dweud y byddai hi a nain yn cario eu dillad budr i’w golchi yn y ffôs yr ochr yma i Stabal Mail cyn eu sychu ar y creigiau cyfagos. Byddent yn gwneud yr un fath yn Soar gan fod llyn yn yr afon o dan Soar a elwid yn Llyn Ysgoldy.

Daeth trydan i’r pentref yn y tridegau cynnar, cyn hynny lampau paraffin a chanhwyllau oedd yn goleuo. Byddem yn gwneud lanteri allan o hen duniau corned beef gyda weiren yn handlen a byddem yn gwneud lanteri allan o swej mawr gan dorri allan siap fel wyneb ynddynt, roeddynt yn edrych fel wyneb hen ddyn pan osodwyd cannwyll y tu fewn iddynt. Yr unig olau yn y pentref, i gael hyd i’ch ffordd o gwmpas yn y nôs, oedd golau’r tai a siopau ond ‘roedd postyn lamp wrth ymyl yr ysgol a thros y ffordd i’r Ship. Nid oes gennyf gof ond am hwnnw oedd ar y stesion oedd wedi ei oleuo hefo paraffin wrth sgwrs. Roedd iechydaeth yn ddrwg iawn ac yn Stryd Gefn roedd ganddynt doiledau sychion. Roeddynt wedi eu gosod ymhen draw y gerddi, gelwid hwy yn Tan yr Allt. Roeddynt yn cael eu rhannu rhwng sawl ty. Yn yr hen amser byddai dwr wast yn cael ei gario i ffos tu cefn i’r Ship, lle mae’r maes parcio heddiw. Cyn gwneud y maes parcio rwyn cofio agor y giat, lle mae mynedfa’r maes parcio heddiw, a chyda cymorth Harry Jones daethom o hyd i’r hen beipen ychydig droedfeddi i lawr. Rwyn cofio John Edwards a dyn arall yn palu yn ein gardd gefn er mwyn cael gosod peipen carthffosiaeth newydd, mae’n rhaid fod hyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Doedd dim trin y carthion y pryd hynny, roedd yn cael ei gario i ffos ochr Harlech i‘r stesion. Bu achos llys ymhen blynyddoedd ac yn dilyn hyn adeiladwyd lle trin carthion yn y cae tu draw i’r ysgol, roedd hynny tua 1947. Cysylltwyd y Tai Cyngor a adeiladwyd yn Gwndwn a bu rhaid iddynt ffrwydro trwy’r creigiau yn y gelli ac yna dilyn y llwybr at gefn y Motel i wneud hyn. Rwyn meddwl yn aml fod y ffos yng nghefn y Ship wedi ei esgeuluso a bod dwr wast yn dal i redeg iddi o rai o’r tai ac ar hyd y ffordd o Tremefion a Ty Mawr. Mae’n rhedeg y tu cefn i’r eglwys cyn ffeindio ei ffordd i’r ffos. Rwyn sicr y dylai rhywun gymryd cyfrifoldeb am ei hagor.