Chwilio

Gwr ac iddo barch mawr yn y pentref oedd Humphrey Owen, Draenogau Bach. 'Roedd ganddo geffyl a throl a chyn dyfodiad lori’r Cyngor ef oedd yn casglu’r ysbwriel. Ef hefyd oedd yn gwagio’r toiledau sych cyn dyfodiad y peipiau carthfosiaeth.

Byddai’r bwcedi yn cael eu gadael allan yn y pentref i’w gwagio ganddo. Byddai’n mynd cyn belled a Soar. Byddai’n gwagio’r cert yn y traeth gyferbyn a Draenogau a gellir gweld hen boteli a chaniau a gwastraff sy’n dyddio’n ol 50 mlynedd yno hyd heddiw. 'Roedd Humphrey Owen hefyd yn ymgymerwr angladdau a byddai’n tynu’r hers gyda cheffyl cyn dyfodiad y modur. Cedwid yr hers mewn cwt ar ben y rhiw o dan Capel y Graig. Byddai’n cario glo i’r Co-op a bwyd i’r anifeiliaid ar y ffermydd. Yn aml gwelid ef yn mynd trwy’r pentref gyda llond trol o blant yn canu, 'roedd yn arwr i genedlaethau o blant.

'Roedd y rhan fwyaf o’r tir o gwmpas y pentref yn berchen i ystad Cefn Trefor Bach ond yn 1921 gwerthwyd parseli bach o dir. Cyn hyn Edmund Roberts oedd perchennog y tir. 'Roedd yn gapelwr mawr ac yn aelod yng nghapel Soar lle’r oedd yn organydd ac ef hefyd oedd yr ysgrifennydd neu’r trysorydd. 'Roedd yn byw yn Cefn Trefor Bach (dyna enw’r fferm ar yr hen fapiau, ddim Cefn Trefor Isa fel y’i gelwi’r heddiw) cyn iddo adeiladu Tremeifion.

Cefn Trefor Bach neu Cefn Trefor Isaf fel y'i gelwir heddiw

Tad Nelta Roberts a adeiladodd Bronwylfa. Cyn i’r teulu symud yno roeddynt yn byw yn Angorfa yn y pentref. 'Roedd yn Gapten llong a chollodd ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gweinidog y Wesleiaid oedd yn byw drws nesaf yn Bryn Awel. Cyn adeiladu’r ty yma 'roedd y gweinidog yn byw yn Bron Trefor ac roedd llwybr yng nghefn y ty oedd yn dod allan wrth Bryngolau. Doedd dim ty yno pryd hynny dim ond tir preifat yn berchen i Edmund Roberts, Cefntrefor Bach, oedd wedi rhoi caniated i’r gweinidog ei ddefnyddio ond neb arall. 'Roedd Willie Williams y Crydd wedi prynu tir tu cefn i Capel y Graig gan fferm Ty Mawr ac fe adeiladodd dy yno o’r enw Ceinfro – 'roedd hyn yn nechrau’r ugeiniau. 'Roedd hen gwt i’r Fyddin yno cynt a gwnaed llawer o newidiadau iddo. Gelwid `Trem-y-Wyddfa' yn Snowdon View a Jonathan Parry oedd yn byw yno – 'roedd yn arddwr arbennig a byddem yn prynu tatws ganddo. Byddai’n rhoi afalau oedd wedi disgyn oddi ar y coed i ni. Byddai pobl oedd yn dioddef o’r eryr yn mynd at ei wraig Mrs Parry a fyddai’n poeri arno. Byddai Nain yn dweud iddi fendio sawl un am ei bod wedi bwyta eryr unwaith!

Mr Pritchard oedd y ‘Station Master’ yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 'Roedd ganddo un mab Stanley a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mrs North oedd yn edrych ar ei ol. 'Roedd porter bob amser yn y stesion a byddai’r gatiau i’r traeth yn cael eu cloi o’r signal bocs ar y platform. Os oedd y ffermwyr eisiau croesi bydddai’n rhaid iddynt weiddi ‘gatiau’ o’r ffordd. Byddai heddlu o Harlech a Phenrhyn yn dod i’r pentref unwaith y mis ar eu beics ac yn cyfarfod ar bont y Glyn.

Un person y dylwn son amdano yw Evan Williams, Maescaerau, 'roedd yn arbennig am ddefnyddio bwyell fawr. Byddem yn mynd a sach i’r Gelli a hel y sglodion ar gyfer y tan wedi iddo fod yn torri’r coed derw.