Chwilio

Cwrs yr Afon Ddwyryd

Roeddwn i’n siarad hefo Hugh Williams oedd yn byw ar Ynys Gifftan, ychydig flynyddoedd cyn iddo farw, am y newid yng nghwrs yr afon i’r ochr yma o’r ynys. Dywedodd Hugh mai’r tro diwethaf iddi ddod i’r ochr yma oedd yn 1940.

Rwan mae hi’n ôl ar ochr Minffordd i’r ynys – ond gyda “David Jones” yn gweithio’n galed gyda bob llanw yr ochr yma yn cario llawer o dywod i ffwrdd, dwi’n siwr na fydd hi’n hir na fydd ei chwrs yn ôl i’r ochr yma. Mae’r traeth wedi newid llawer yn yr 50 mlynedd diwethaf. Rydwi’n cofio’r tywod i fyny at y creigiau yng Nghlogwyn Melyn a hefyd ger trwyn Glanmôr, ond erbyn hyn mae aceri o’r traeth wedi eu gorchuddio gan hen chwyn ofnadwy ac wrth gwrs mae’n dal y mwd. Ar un adeg roedd yn draeth hyfryd.

Roedd y dynion yn arfer mynd i lawr ar y morfa yn y gaeaf i saethu chwiaid gwylltion, ac os byddai’r tywydd yn oer iawn byddent yn cael ambell wydd wyllt.

Torri Tywyrch

Daeth cwmni un tro i dorri tywyrch ar y traeth ar gyfer lleiniau bowlio a chaeau peldroed. Fe dyfodd yn fusnes llewyrchus a chludwyd y tywyrch ar hyd a lled gwledydd Prydain. Buont yn gwella ansawdd y tywyrch trwy fwydo a lladd chwyn ond un flwyddyn cawsant aeaf caled iawn a methwyd a thorri’r tywyrch. Aeth y fenter i’r wal a chodwyd y rheiliau oedd yn rhedeg bron i lawr at Ynys Gifftan. Aethom i Southend un tro, rai blynyddoedd yn ôl a dangoswyd inni lain fowlio a ail-dywarchwyd a thywyrch o draeth Talsarnau.

Beth ydy ystyr “Ynys Gifftan?” Mae rhai pobl yn meddwl mai’r gair ‘gitan’ ydyw, sy’n enw ar afr ifanc, a chan fod enw fferm ar ochr Minffordd i’r afon hefyd o’r enw Abergafran. Efallai y gallai’r gair ar y llaw arall fod wedi dod o’r gair ‘skiff’ – sef cwch – dyna farn rhai pobl.