Tlodi
Rhwng y ddau ryfel roedd pobl yn dlawd iawn ac yn ei chael yn anodd i gael dau pen llinyn ynghyd ac o’r herwydd mi fyddai dynion yn gadael y ffermydd a’r chwareli ac yn anelu am Dde Cymru i weithio yn y pyllau glo gan y gallent wneud mwy o arian.
Ond roedd hyn yn achosi amser caled iawn i’r gwragedd a’u teuluoedd. Cafodd rhai o’r gwyr sengl hyd i wraig a setlo yn Ne Cymru.
Dwi’n cofio adeg y Nadolig gallech weld pobl yn mynd o gwmpas y ffermydd gyda sach yn hel cardod. Mi fyddent yn gofyn am ychydig o datws neu rwden ac wedi galw mewn sawl fferm byddai’r sach yn mynd yn drwm. Ond cofiaf hanes un hen wraig yn Harlech pan ddywedodd un ffermwr wrthi fod ganddi fwy o bwysau yn y sach na allai gario, dal ati i lenwi wnaeth yr hen wraig gan y gwyddai fod ei gwr yn cuddio tu ôl i’r gwrych yn barod i gario’r llwyth, ac yna aeth ymlaen ar ei thaith gyda sach wag.
Roedd yna wraig yr oeddem ni yn ei hadnabod ai allan yn gynnar yn y bore i bapuro ystafelloedd i bobl ac ar ôl gorffen roedd gofyn iddi lanhau ar ei hôl a’r cyfan a gai am ei llafur oedd deuswllt. Ar ôl dychwelyd adref byddai raid iddi baratoi bwyd ar gyfer ei phlant gan ei bod yn wraig weddw.