Chwilio

Ganwyd Dad ym Mlaenau Ffestiniog ar y 29ain o Chwefror, 1912. Ymfalchiai yn y ffaith ei fod wedi ei eni ar ddiwrnod naid, ac mai ef oedd y penshoniar ieuengaf yn yr ardal. Ymfudodd y teulu i Trefor Place yn y pentref pan oedd yn ieuanc iawn a mynychodd ef a’i frawd Dei ysgol y pentref. Gadawodd yr ysgol pan oedd yn 14 ac aeth i weithio i chwarael yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog. Soniai yn aml am y gymdeithas glos oedd yno ar cystadlu brwd yn y Caban ar amser cinio. Pan ddaeth y rhyfel ymunodd a’r Fyddin ac yno y bu hyd ddiwedd y rhyfel yn 1947. Ni fyddai byth yn son am y dyddiau yma a gafodd gymaint o effaith arno. Cai ei alw yn ‘Chocolate Soldier’ gan ei gyd filwyr gan y byddai yn ffeirio ei sigarets am siocled, roedd yn well ganddo focs o siocled na’r cinio gorau ac fe fwytaodd bwysi yn ystod ei oes.

Tra yn y Fyddin cyfarfu a Mam a oedd yn hanu o’r East End yn Llundain ac yno y gwnaethant briodi yn 1944 cyn symud i Dalsarnau pan oeddwn ychydig fisoedd oed yn 1946. Ganwyd Gwynfor, fy mrawd, yn 1949 ac roedd y teulu bach yn gyflawn. Aeth Dad i weithio ar Reilffordd y Cambrian wedi dychwelyd o’r Fyddin ac yno y bu nes iddo ymddeol.

Ymhel a Hanes Cymru a hanes lleol oedd ei brif ddiddordeb wedi ymddeol a daeth sawl myfyriwr o Goleg Harlech i Cilfor i’w holi wrth ymchwilio i ddeunydd ar gyfer eu traethawd hir. Roedd wrth ei fodd yn cyfarfod y gwahanol gymeriadau o’r gymdeithas a ddeuai ato ar yr aelwyd.

Ei ddiddordeb arall oedd garddio. I ni, y teulu, mor ffodus oeddem o gael llysiau ffres o’r ardd a physgod o’r traeth. Cariai sachau o wymon i fyny’r rhiw i’r ardd, oedd oddi tan Bryn Awel (cyn ail wneud y ffordd), a byddai wrth ei fodd yn taro sgwrs hefo pwy bynnag oedd yn mynd heibio.

Rhaid yw son am ei gariad at blant. ‘Roedd ganddo ffordd arbennig o hwyliog o gwmpas unrhyw blentyn ac amynedd di-ben-draw. ‘Roedd ar ben ei ddigon pan anwyd Meinir, y cyntaf o’i wyresau, ac roedd fel brenin wrth ei gwthio yn ei phram o gwmpas y lle. ‘Roedd ei gwpan yn llawn pan anwyd Gwion, Caryl a Geraint, colled fawr i’r gor-wyrion oedd na chawsant gyfarfod eu hen Daid.

Cafodd Dad bleser mawr yn ysgrifennu’r hanes yma, gobeithio y cewch chwithau yr un boddhad yn ei ddarllen.