Capel Brontecwyn
Capel Wesleaidd, agorwyd yn 1808 ac a gaeodd yn ystod y 1990au ac sydd erbyn hyn yn dŷ gwyliau.
'Agorwyd ef ar y Dydd Hwyaf yn 1880 pryd y pregethwyd gan y Parchedigion Samuel Davies "yr Ail", Cadeirydd Talaith Gogledd Cymru a Hugh Jones, Ysgrifennydd y Dalaith'. - o Atgofion Cynnar gan D. Tecwyn Evans.
Mewn tyddyn o'r enw Ty'n-y-groes, ychydig yn is i lawr na'r capel y dechreuwyd yr Achos Wesleaidd yn yr ardal pan bregethodd Edward Jones Bathafarn yno yn 1804. Yno, hefyd, yn ol D. Tecwyn Evans, y cafodd Edmund Evans, Aberdeunant Isaf, 'droedigaeth'. D. Tecwyn Evans ei hun oedd y cyntaf i gael ei fedyddio yno, yn dair oed. Cynhaliwyd gwasanaethau mewn dau dy arall yn y pentref, sef Capel Newydd a Capel Bach.
Mae llawer o wybodaeth a hanes difyr am gapel Brontecwyn a'r cymeriadau aeth yno dros y blynyddoedd yn y llyfr Atgofion Cynnar am Ysgol Llandecwyn.