Chwilio

Eglwys Llanfihangel y Traethau


Eglwys Llanfihangel 2

 

O'r holl hen addoldai yma yn Nhalsarnau mae dwy eglwys yn dal ar agor, Eglwys Llandecwyn i fyny heb fod ymhell o Lyn Tecwyn Uchaf ac Eglwys Llanfihangel y Traethau yma wrth y môr. Mae hon yn hen safle a'r hen garreg fedd yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif wrth y porth, sy'n profi fod eglwys yma cyn codi'r castell yn Harlech.

Ychydig o wasanaethau a gynhelir yn Llandecwyn gan fod y ffordd yn reit gul a serth. Cynhelir ambell i angladd, gwasanaeth diolchgarwch a gwasanaeth neu ddau yn ystod mis Awst . Mae'r ddwy eglwys ar agor drwy'r dydd pob dydd fel safleoedd i fyfyrio neu weddio, sydd yn fendithiol i unrhyw un sy'n cael yr angen am hyn.

Rhaid pwysleisio eu bod yn safleoedd o fewn Rhwydwaith y Mannau Pererindod Bach ac yn werthfawr iawn oherwydd i Gristnogion weddio yma o genhedlaeth i genhedlaeth am wyth canrif a mwy.

Cynhelir gwasanaeth yn Eglwys Llanfihangel bob Sul am hanner awr wedi unarddeg, gwasanaeth dwy ieithog a Chymun Bendigaid bob yn ail a Boreol Weddi heblaw am y pumed Sul yn y mis pan na fydd gwasanaeth heb fynd i un arall o'r eglwysi ym Mro Ardudwy.

Adeiladwyd yr eglwys yma fel capel anwes i blwyf Llandecwyn yn niwedd yr unfed ganrif ar ddeg. Ar un cyfnod cynhelid ysgol ddyddiol yma a'r plant yn cael diwrod i ffwrdd pan gynhelid angladd yma, ond bu cau ar yr ysgol pan adeiladwyd Tyddyn Eglwys yn 1832. Eglwys wedi ei chysegru i Sant Mihangel, fel llawer arall, ond Llanfihangel y Traethau yma oherwydd fod y ddwy afon – Glaslyn a'r Ddwyryd yn mynd i'r môr o fewn golwg yr eglwys. Mae'r hen feddrod tal a main ger y fynedfa gyda beddargraff mewn Lladin arni yn dyddio i gyfnod Owain Gwynedd , sy'n dyddio'r eglwys i fod yn hyn na'r castell yn Harlech.

Mae amryw o feddau morwyr a chapteniaid llongau yma, yn ogystal â phobl a ystyrid yn enwog megis Mari'r Fantell Wen, yr awdures Gwyneth Vaughan a'r awdur Richard Hughes.