Chwilio

Dyma rai o atgofion Meinir oedd yn ferch i frawd Huw Williams am Ynys Gifftan.

Diddorol iawn. Roedd hi’n dweud ei bod wedi eu rhoi i rywun a oedd yn ysgrifennu llyfr ond na chafodd ei gyhoeddi. Brawd tad Meinir oedd Huw.

Ynys Gifftan4
Roeddem fel plant yn mynd i Ynys Gifftan ar ein gwyliau bob blwyddyn ryw ben. Mynd i’r capel gyda nhw ar y Sul a cherdded yn ôl wedyn. Byddai fy modryb yn ein cario ni’r plant dros yr afon fach i fynd i Ynys G. Atgofion hapus iawn heblaw am ambell un! Croesi’r afon unwaith gydag Yncl (Caer) a Patricia fy nghyfnither ac yntau’n gorfod cario’r ddwy ohonom a’r dŵr i fyny’n uchel.


Roedd Yncl Huw yn ffermio’r tir (18 acer) ac yn hunangynhaliol. Dwy fuwch, ieir, moch, gwyddau a defaid wrth gwrs yn pori’r traeth yn y dydd. Mewn corlan yn aml yn y nos os oedd llanw uchel. Pysgota a thyfu pob math o ffrwythau a llysiau.


Y postmon yn cerdded yno bob dydd (milltir bob ffordd) ac yn cario un neu ddau o bethau iddynt os byddai raid. Anti yn corddi a gwneud bara a dwi’n gallu clywed arogl y bara rŵan a’r pys pêr a oedd ar y bwrdd! Wedi plannu ‘cutting’ o ‘hydrangea’ a ddois adre gyda mi oddi yno ryw 5 mlynedd yn ôl. Fe wnaeth Meirion hynny hefyd. ‘Happy days!’ (Mi fu farw Meirion, brawd Meinir, fis Ebrill 2024.)

Ynys Gifftan3
Gyda llaw, dim trydan, dŵr, ffôn na thŷ bach ond ryw ganllath o’r buarth. Penrhyn View oedd ei enw! Cawsant ffôn yn fwy diweddar ac fe newidiodd hynny fywyd y ddau. Mae ‘na ddau ddodrefnyn o Ynys G. yma. Wedi eu prynu yn yr ocsiwn pan oedden nhw’n cael eu gwerthu. Meddwl ar y pryd y byddai’n fuddsoddiad da ond erbyn heddiw mae’r ‘ornaments’ sydd arnyn nhw’n fwy o werth! Fy nhad yng nghyfraith yn dweud ar y pryd y byddai’n well inni fod wedi prynu cae! Mor wir erbyn heddiw! Ond doedd y dodrefn yn golygu dim iddo fo wrth gwrs.


Roedd gan Yncl Huw sied ac ychydig o dir yn Ynys. Ar yr ochr chwith wrth fynd i gyfeiriad Harlech. Yno roedd pethau fel bwyd anifeiliaid yn cael eu gadael iddo ac roedd yn mynd i’w nôl gyda merlen a chart a chroesi’r afon a’r traeth yn ôl i Ynys Gifftan. Tebyg y bydd Olwen yn eu hadnabod. Nhw oedd y rhai olaf i fyw ar Ynys Gifftan go iawn.

Ynys Gifftan2

 

Roedd fy modryb yn diabetig go ddrwg erbyn y diwedd ac wedi gorfod colli un llygad. Cafodd y diciâu hefyd a bu yn yr ysbyty yn Abergele am gyfnod. Yncl yn aros gyda ni yn Hafodty (Llanefydd) a dechrau dysgu gyrru tra bu gyda ni (er na wnaeth ddal ati wedi mynd adref.) Roedden nhw’n byw mewn byngalo yn Nhalsarnau dros y gaeaf yn y diwedd, cyn symud i Minffordd. Roedd gan Yncl gwch ar y traeth i groesi i Ynys Gifftan i fwydo’r anifeiliaid yn y cyfnod diweddaraf - cyn ymddeol. Pan fu Anti farw, aeth i le dan ofal warden. Symudodd wedyn i gartref henoed ond bu farw ymhen pythefnos.