Chwilio

 

Roedd y rhan fwyaf o ddynion Talsarnau yn perthyn i gymdeithas gyfeillgar. Gan fod rhai o’r dynion yn gweithio yn y chwareli a dim ond adref i fwrw’r Sul, roeddent yn cynnal eu cyfarfodydd ar ddydd Sadwrn, ac roedd hyn cyn i’r bwsiau ddechrau rhedeg.

Roedd gofyn i unrhyw aelod newydd ymddangos o flaen pwyllgor cyn y byddent yn cael eu derbyn a phan oedd aelod yn sâl roedd yn rhaid iddo fod yn y ty erbyn 7 o’r gloch, dyma oedd y rheolau ac nid oedd i wneud dim gwaith ac os torrai’r amodau byddai’n cael llai o dâl buddiant. Daeth pethau’n well gyda dyfodiad yr Yswiriant Gwladol a daeth bywyd yn haws a golygodd hyn i’r Cymdeithasau Cyfeillgar raddol ddod i ben, ond fe fuont yn fodd i roi cymorth i lawer o ddynion sâl a theuluoedd tlawd yn ogystal. Perthynai dynion Talsarnau i’r “Odd Fellows”.

Y Garej
Dechreuodd J. Williams y Garej neu Robin John fel y byddwn yn ei adnabod, werthu beiciau modur yn y tri-degau a deuai pobl ato i brynu o bob rhan o Ogledd Cymru a gallaf ei gofio yn hwyr y nos yn dal ati i drwsio ac yn mynnu bod y beic yn iawn cyn y rhoddai’r gorau iddi. Gweithiai Robin yn y chwareli fel creigiwr ac mae’n glod iddo lwyddo yn ei fusnes i’r hyn ydyw heddiw.

Defnyddio Cerrig Lleol
Chwarel Morris William oedd yr enw a roed ar y chwarel sydd tu ôl i gartref Twm Ieu yn Glanywern. Roedd ef yn hen daid i mi ar ochr fy mam ac mae’n debyg iddynt ddefnyddio’r cerrig o’r chwarel hon i godi’r tai gan mai tai cerrig sydd yn y cyffiniau.

Pwerdy Maentwrog
Pan godwyd y pwerdy ym Maentwrog cariwyd y peiriannau trymion gyda’r tren i Dalsarnau a bu raid cryfhau’r bont ger yr orsaf a phan oeddynt yn cario’r trawsgludwyr mewn loriau mawrion, fe suddodd un lori yng nghanol y ffordd ger Barcdy a bu raid cael craeniau anferth yno i’w symud. Mae nhw’n dal i wario arian ar y rhan yma o’r ffordd hyd yn oed heddiw – drigain mlynedd yn ddiweddarach.

Caeau Ty CerrigTy cerrig
Cofnodwyd llawer iawn o wybodaeth yn nyddiaduron Ty Cerrig ac ym 1830 roeddynt wedi cofnodi beth wariwyd fesul diwrnod a faint o ddynion oedd yn gweithio yno, sawl awr a weithient, roedd hyn yn ystod tymor y cynhaeaf pan oedd y gwair yn cael ei dorri gyda phladuriau. Rydwi wedi ceisio gweithio allan ym mha gaeau yr oedd y dynion yn gweithio ynddynt – Ffridd Trwynog, Bryn Draenog, Acra, Tynygaer, Bryn Pren Onnen, ffridd Pentre gaer, Gwastad Cae Coch, Ffridd Ty Newydd, Plantation,  Cae Garreg Lwyd, Bryn Mawr, Pentrwyn, Bryn Bach, Morfa Glas, Ffridd Morfa, Morfa Gloyw, Penrhyn Ithel Uchaf,  Penrhyn Ithel Isaf, Buarth y Moch, Buarth Newydd, Ffridd Gwastad, Buarth Pant Gwyn a Weirglodd Wyllt.