Chwilio

Canu

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf fe gynhyrchwyd Cantata yng Nghapel Soar – Cantata yr Adar, ac rwyf yn cofio May, Tynbryn yn cymryd rhan y gôg. Roedd yn arbennig a Tommy Williams (tad Kit) oedd yr hyfforddwr.

Roedd gan D.R.Jones gôr plant ac roedd gan John Trefor Jones gôr meibion ac roedd gan Richard Lloyd gôr yn ogystal. Cyn fy amser i, arweinydd y côr meibion oedd J.J.Thomas ac fe enillwyd llawer iawn o wobrwyon. Ef oedd y prifathro ar y pryd a bu farw yn 1917. Mae ei ferch Elsie yn byw yn Yugoslavia yn awr.

Sychdwr Mawr

Yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf fe gawsom un haf sych arbennig ac aeth y dwr yn isel, roedden nhw’n gweddio am law yn y cyfarfodydd gweddi oedd yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn y stafell fechan yn Bryn Street.

Saethu'r Bwch Gafr

Roedd yna fwch gafr yn crwydro o gwmpas Clogwyn Gwyn a phan ddeuai merched a phlant at Ysgoldy, Soar, i nôl dwr, roedd yn ymosod arnynt a gallai fod yn beryglus ac felly fe benderfynwyd ei saethu. Aeth pob dyn a chanddo wn yn Soar un noson i’w hela, ac fe’i saethwyd ar y creigiau.

Gwaith Powdr, Penrhyn

Dros y blynyddoedd fe fu llawer o ffrwydriadau yn Y Gwaith Powdwr yn Penrhyn a nifer helaeth wedi eu lladd yno, ond yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe fu un ffrwydriad fawr iawn. Chwythwyd trawstiau mawrion i’r traeth sydd gryn bellter i ffwrdd a chafodd y pentref ei ysgwyd. Roedd yr henwragedd yn y pentref yn meddwl bod yr Almaenwyr wedi cyrraedd ac roeddynt wedi cydio yn y plant ac wedi dechrau rhedeg hefo’u coetsis bach i gyfeiriad Glanywern. Doedd prin ddim traffig bryd hynny.

Wrth sôn am draffig, roedden ni’n arfer chwarae hefo pel fawr yr ochr arall i’r eglwys ac roedden ni’n arfer gosod dwy got ar y llawr bob pen i wneud goliau. Roedd hyn ar y ffordd fawr ac mi fyddai rhywun yn gweiddi os oedd car yn dod ac efallai fod y car hanner milltir i ffwrdd. Roedd Bob Richards yn meddwl y gallai luchio carreg o ben y rhiw dros yr eglwys ond fe achosoddd ddamwain. Roedd John Gwilym ar y ffordd islaw ac fe drawodd y garreg ef yn ei lygad ac fe gollodd ei olwg ac fe roddodd hynny ddiwedd ar y lluchio cerrig.

Tren Chwarel

Mae gen i oriad yn perthyn i Rheilffordd Ffestiniog o’r cyfnod pan oedd fy nhaid yn agor drws y carej, roedd goriad tebyg gan y rhan fwyaf o’r gweithwyr gan y byddai rhai ohonynt yn neidio allan rhwng dwy orsaf. Mae’n rhaid fod y goriad dros gant oed erbyn hyn. Os deuai dieithryn ar y tren, byddai’r selogion yn ei osod i eistedd ar y mul – fel rhyw focs metel yn y canol.

Pan yn Blant

Pan fu inni ddechrau’r ysgol, roedd gennym lechen i ysgrifennu arni a llechen hefyd oedd y ‘bensel’ ac os digwydd inni bwyso’n rhy galed ar y bensel byddai’n cracio, ac rydwi’n cofio roedd y blwch awyru yn wal y stafell gotiau yn llawn o lechi wedi malu wedi eu cuddio gan y plant. Roedden ni’n arfer mynd i’r Gelli amser cinio i chwilio am beth oeddem i’n eu galw’n ‘gnau daear’. Roedden ni’n cael hyd iddyn nhw o dan chwyn oedd yn tyfu ym mhob man yno. Mae ganddo flodau gwynion ac yn tyfu hyd at tua llathen o daldra. Peth arall oeddem yn ei wneud oedd rhedeg hanner ffordd at Stabal Mail ble’r oedd coed ceirios yn tyfu ac mi fydden ni’n taflu carrig neu darnau o goed er mwyn cael y ceirios i lawr. Unwaith fe arhosodd y darn pren yn y goeden ac roedd siarabang o Bermo yn dynesu, yn llawn o ymwelwyr, a chan fod y top yn agored roeddem ofn i’r darn pren ddisgyn i’w canol, ond gynted ac yr aeth y bws heibio syrthiodd y darn pren ac fe ddeuthom ni i gyd allan o’n cuddfannau. Roeddem yn gallu dringo coed fel mwnciod ac rwy’n siwr fod y rhan fwyaf o’r coed yn y Gelli a Choed Fuches Wen wedi cael eu dringo gan un ohonom. Evie oedd y gorau ond roedd Jac Cambrian yn un da hefyd. Roedden ni bob amser yn hel coed wedi crino ar gyfer y tân ac wrth gwrs roedden ni’n meddwl fod be gaem ni oddi ar y coed yn well na hel coed oddi ar y llawr. Mi fyddem ni’n rhoi ein breichiau o amgylch y goeden ac yna’n rhoi ein troed ar y coedyn crin. Ffordd arall oedd prynu 10 llathen o raff a chlymu carreg ar un pen a’i lluchio dros y gangen grin, rhoi tro neu ddwy yn y rhaff a thynnu i gael y coed i’r ddaear.