Chwilio

Roedd llawer iawn o storiau da i’w clywed yn y chwarel a gallaf gofio un dda iawn. Roedd yna ddyn yn y Blaenau a dreuliau lawer iawn o’i amser yn y tafarndai a chafodd y gweinidog air gydag ef, addawodd ‘Nowtyn’ fel y’i gelwid, y byddai yn cadw draw oddi wrth y ddiod.  Ond un noson . . . . .

fel yr oedd y gweinidog yn croesi Pont y Queens pwy ddaeth i’w gyfarfod ond Nowtyn a dywedodd y gweinidog, “Wedi meddwi eto.” Ac atebodd Nowtyn, “A fi hefyd!”

chwarelwyr yn trafodAr gychwyn mis newydd byddai’r dynion yn gwisgo trowsysau glân oedd fel arfer yn gordiroi gwyn a chot wen yn ogystal, ond byddai dynion y creigiau a’r mwynwyr yn gwisgo ffustion gan y byddent yn hongian ar gadwynau tra’n gweithio ar wyneb y graig ac a wisgai’n well na defnydd cordiroi. Roedd yn waith caled iawn i’r merched bryd hynny gan y gallaf gofio fy mam yn sgwrio ein dillad gwaith ac os oedd angen gwneud unrhyw waith trwsio roedd hi’n gwneud yn siwr fod y clytiau’n hollol sgwâr gan y byddai’r dynion yn tynnu sylw a chanmol y rhai taclus. Gallech ddweud bob amser pwy oedd y dynion a weithiai o dan ddaear gan y byddent yn cario’i cannwyll mewn lwmp o glai a byddai gwer y gannwyll wedi colli dros eu dillad. Arferai Ellis Owen, oedd yn byw yn y pentref, fynd lawr i’r traeth ger Draenogau a mynd a llond bag o glai oddi yno i’r chwarel a byddai’r creigwyr yn talu hanner coron iddo gan ei fod yn well clai nag a geid yn y chwareli.

Rydwi’n cofio pan oeddem yn hogiau yn y ‘Caban’ – dyna ble’r arferem gael ein bwyd, ac wrth gwrs byddai llawer o ddefnydd o eriau bras ymysg y dynion, ond os oedd William Owen Dolwyddelan yn agos, ni feiddiai neb regi. Roedd yn flaenor ac yn dad i’r Parch. Robert Owen a’r Parch. John Owen. Gresyn nad ydy dynion tebyg yn dal yn ein mysg heddiw. Mae llyfr cofnodion un Caban yn dal yn bod heddiw – rhai Sinc y Mynydd yn Chwarel Llechwedd. Trefnid dadleuon a chystadleuthau bob dydd, byddai lle i drafod cwynion a threfnid cyngherddau codi arian ar gyfer cyd-weithwyr wedi’u hanafu.

Dyma raglen Sinc y Mynydd am fis Hydref 1902:-

Owen Morris yn sôn am ei wyliau.

Cystadleuaeth canu’r geiriau ‘O fryniau Caersalem’ ar y dôn ‘Crug y Bar’

Darlith ar y penawd ‘ Faint mwy yw dyn na dafad.’

Trafodaeth ar Y Ddeddf Addysg a’r angen i’w gwrthwynebu.

Cystadleuaeth canu unigol.

Cystadleuaeth darn heb ei atalnodi.

Cystadleuaeth sillafu.

Cystadleuaeth i greu geiriau Cymraeg.

Cystadleuaeth gwybodaeth cyffredinol.

Adrodd darnau o Dafydd Brenin Israel – parhau am wythnos gyfan.

Cwestiynau ar wybodaeth Beiblaidd.

Cystadleuaeth enwau lleoedd yn cychwyn â’r un llythyren.

Trafodaeth a ddylai Gweinidogion yr Efengyl gael eu hapwyntio am oes neu am gyfnod penodol.

Cystadleuaeth i ddadansoddi ystyr darn arbennig o farddoniaeth

Darlith ar falchder.

Stori’r Mwnci
Dwi’n cofio mam yn sôn am Hugh Williams oedd yn byw yn Y Garth pan oedd yn gweithio yn y chwareli a daeth i lawr i Penrhyn un Sadwrn ar y tren, ac fel yr oedd yn gadael Penbwlch roedd yna ddyn yn sefyll a mwnci bach ar ei ysgwydd. Gofynodd i Hugh a fyddai’n hoffi ei brynu ac ar ôl bargeinio, fe’i prynwyd am bum swllt a ffwrdd â Hugh gyda’r mwnci. Fel yr oedd yn mynd heibio’r Griffin chwibanodd y dyn a dechreuodd y mwnci ei gripio a’i grafu a bu raid iddo ei ollwng. Dwi’n siwr bod y cast yma wedi ei chwarae nifer o weithiau cyn hynny!