Yr Efail
Roedd yna efail yn Yr Ynys ar un amser o’r enw Efail yr Ynys a dwi’n credu ble mae Minafon heddiw. Roedd un arall yn Llandecwyn a’r enw ar honno oedd Efail Fach ac roedd honno ble adeiladwyd Capel Wesla, Brontecwyn.
Roedd gan Wmffra Lloyd efail yn Eisingrug, dwi’n cofio’r hen bobol yn sôn am Efail Pencarreg, mae’n rhaid mai hon oedd yr un ble roedd y gwartheg yn arfer cael eu pedoli cyn iddynt gychwyn ar eu taith i’r marchnadoedd yn Lloegr gan fod yna le yno o’r enw ‘Clwt Powlio’. Roedd yn arferiad i roi’r gwartheg ar eu cefnau er mwyn eu pedoli.
Y Felin a'r Pandy
Roedd yna lyn yn ymyl ble mae’r afon fach ac roedd y dwr yn cael ei ddefnyddio i droi’r olwyn ddwr yn y felin islaw. Roedd Eisingrug bryd hynny yn lle prysur iawn ar yr hen ffordd, a oedd bryd hynny yn brif ffordd. Rwy’n siwr fod yr efail yn fan cyfarfod i holl ffermwyr yr ardal, ynghyd a’r felin a’r pandy sydd ychydig islaw, ac mae Gafael Crwm sydd yn cael sylw yn llyfr J.H. (J.H.Jones, Y Brython) ‘Crysau Gwlaneni’. Clywais fy mam yn sôn am ei chwaer Jane Catherine, oedd yn wniadwraig, yn cario ei pheiriant gwnio o un fferm i’r llall yn gwneud dillad newydd i’r ffermwyr a hefyd yn trwsio.
Y Ffyrdd
Mae’n braf gweld y ffyrdd i Caerwych a hefyd i Tallin wedi eu tarmacio yr holl ffordd gan mod i’n gallu cofio’r ‘tyllau marl’ fel y’i gelwid a fy ewythr Billy gyda’i forthwyl a’i handlen hir yn eistedd ar sach yn y twll marl yn ymyl Garth Byr yn torri cerrig fel y gallai wedyn lenwi’r tyllau yn y ffordd a byddai’r Cyngor yn cyflogi un o’r ffermwyr gyda cheffyl a throl i gario llwyth i ble bynnag oedd ei angen. Roedd y ffyrdd bryd hynny yn debyg i ffordd drol. Roedd y ffermwyr oedd yn byw tu uchaf i Landecwyn yn cerdded y gwartheg a werthwyd i Faentwrog Uchaf i’w llwytho ar wageni gwartheg a byddent yn cael eu cludo ar y tren i Fanceinion ar gyfer y cigyddion.