Chwilio

FFYNNON SION MORGAN

Ffynnon

Mae ffynnon adnabyddus o dan Soar a elwir Ffynnon Sion Morgan.  Rwy'n sicr eu bod wedi cario dwr ohoni ar draws y Wern i'r hen Dolorcan.

Wedi i ni adael Trefor Place, edrychais ar y gweithredoedd a'r perchennog oedd John Lloyd, 121 Park Road, Lerpwl - siopwr.  Mae'n rhaid ei fod yr un teulu â Robert Lloyd a oedd yn byw yn Siop Gwenda, ac yn 1873, Robert Evans o Aberdeunant, Saer ac Edmwnd Jones, Glanrafon, Ffermwr 1878, ac mae'n dangos sut roedd pobl yn dod o Landecwyn ac os edrychwn ar y gweithredoedd o dai eraill yn y pentref, roedd yr un peth yn digwydd.

OLWYNION DWR

Felin Cefn Trefor Isaf

Roedd na amryw o olwynion dwr yn Nhalsarnau ar un adeg.  Rwy'n cofio yr un yng Nghefn Trefor Isa yn gweithio pan oeddem ni yn blant; roedd yna lyn bach ar ochr y ffordd a byddent yn blocio'r ffos fach ac roedd yno ddigon o ddwr i droi'r olwyn a byddai'r peirannau yn yr adeilad ar ochr y ffordd.  Fe roedd olwynion ddwr yn Ffridd Fedw, Llety, Tyddyn Sion Wyn, Plas Uchaf, Felin Eisingrug, Ffatri Bondwll, Maesyneuadd, Glyn, Caerwych, Barcdy a Thregwylan.

AR Y TRAETH YN PYSGOTA

Pan oeddwn ar y traeth yn gosod leins yn y tridegau, cyfarfyddais â Richard Hughes, yr awdur.  Roedd o'n glanhau ei rwyd, gan fod dipyn o wymon ynddo, a chododd ar ei draed a dweud lle mor hardd oedd y traeth.  "Edrychwn o gwmpas" meddai, "mae'n debyg i fod mewn soser gyda'r mynyddoedd o gwmpas, dyma beth yw golygfa, ac er yr holl wledydd dwi wedi bod ynddynt, nid oes unman yn debyg i hyn".  Pan fyddaf yn cerdded ar y tywod byddaf yn edrych o gwmpas ac yn meddwl am Richard Hughes ar ei feic yn mynd ar hyd y tywod i bostio'i lythyrau ym Mhortmeirion.

FFERMWYR YN CYFNEWID NWYDDAU

Pe digwydd i chi fod ar y ffordd o Penrhyn cyn y rhyfel, byddech yn gweld y ffermwyr o Landecwyn yn cerdded dros y bont gyda'i basged yn llawn o fenyn ac wyau.  Roeddynt ar eu ffordd i Penrhyn i'w cyfnewid am nwyddau o'r siopau. Dyna'r modd y byddent yn gwneud llawer o'u siopa.  Roedd rhaid talu ceiniog i fynd dros y bont ac roedd Evan y Bont yn gwneud yn siwr eu bod yn talu. Cofiaf un ffermwr yn dod i'r pentref gyda'i geffyl, ond heb gert, dim ond yr olwynion a'r bar ar draws, a byddai'n clymu sach o flawd wrtho, neu efallai byddai'n gallu rhaffu pethau eraill gyda'r sach.  Os cofiaf yn iawn roedd yn byw yn Nantypasgen.

AR Y MOR

Roedd yn braf gweld rhai o'r morwyr yn dod adref ar ôl bod i ffwrdd am flwyddyn, neu ddwy efallai, ar longau hwylio oedd yn mynd allan o Borthmadog yn cario llechi, a byddent yn dod a llwyth o goed yn ôl i Borthmadog, neu rhywbeth arall.  Cofiaf fy nghefnder, Willie Ellis, aeth allan o Borthmadog, ac un arall gydag ef, ac i hwnnw ddychwelyd o St Tudwal ac aeth o byth i'r mor wedyn.  Aeth Willie Ellis ymlaen i fod yn Gapten ar stemar, ac felly llawer un arall o Dalsarnau.