Chwilio

SYRCAS

Pan oedd syrcas yn Bermo neu Harlech, byddent yn dod drwy'r pentref yn gynnar yn y bore ac wrth gwrs byddai'r plant i gyd allan a phan ddeuai'r eliffantod, byddent yn begera a byddai'r bobl yn rhoi digon o fwyd iddynt, ond roedd y llewod a'r teigrod mewn caets.

Y CAE CHWARAE A CHARNIFAL

Prynwyd y cae chwarae yn y tridegau. Yn y lle cyntaf, bwriadwyd cael y cae, lle saif y garej heddiw, ond nid oedd grant i gael os nad oedd y cae yn ddigon mawr i gael maes peldroed a lle i'r plant chwarae. Ceisiwyd hefyd brynu'r cae lle saif yr ysgol, ond nid oedd Mr Haigh yn fodlon gwerthu. Gweithiai pwyllgor y cae chwarae yn galed a chynhaliwyd carnifal bob haf, a phob amser roedd brenhines yn y pentref a chyda'r brenhinesau eraill yn ymweld, roedd tua deg yn yr orymdaith, ac roedd yn hyfryd gweld pawb o'r pentref yn troi allan, ynghyd â phobl o'r Ynys a lleoedd eraill. Cafwyd cyngerdd ar y nos Wener cyn y carnifal ac roedd Sybil Thorndyke i fod i ddod, ond gan nad oedd hi'n teimlo'n dda iawn, anfonodd ei chwaer i goroni'r frenhines. Roedd yn anodd iawn cael arian gan fod bobl yn dlawd a chasglwyd y rhan fwyaf o'r arian wrth fynd o amgylch gyda blychau, a byddai'n beth da iawn petai pobl ifanc heddiw yn cael gwybod mor anodd oedd hi i dalu am y cae chwarae.

Carnifal Talsarnau

Roedd Mrs Chambers, mam Mrs Unwin, oedd yn byw yn Edrin, yn helpu llawer gyda'r carnifal, a byddai ei mab John yn ymuno pan oedd adra ar ei wyliau. Roedd na lawer o bobl ifanc o Wigan yno yn yr haf a byddent yn galw eu hunain yn Clwb Talsarnau. Rwy'n meddwl eu bod yn cyfarfod yn Wigan yn ystod y gaeaf a phan ddaethont yma yn yr haf, byddent yn ymuno â ni'r bobl leol a chafwyd helfa drysor a nifer o weithgareddau eraill. Y rhai a gofiaf fwyaf yn y carnifal yw Eric Mayer, Taylor a Denning. Cofiaf amdanynt yn gwisgo'i fyny i'r carnifal ac roeddynt wedi mynd i lot o drafferth i ddod â dillad gyda hwy ac wedyn byddent yn chwarae peldroed gyda ni, ac roedd rhaid i ninnau chwarae rygbi gyda hwy ar y tywod ger Clogwyn Melyn. Byddem yn chwarae peldroed yn y cae ger Fron Yw.

TRYFERA AR Y TRAETH

Gallaf gofio yn y dauddegau, criw o ddynion yn mynd lawr i'r traeth i 'dryfera' ac roedd yr afon bryd hynny yn agos at y creigiau ar ochr arall Clogwyn Melyn. Croesant yr afon yn y lle mwya llydan, nad oedd yn rhy ddyfn, ac ymlwybro i bysgota mewn sianel lle bu'r afon. Pan edrychwyd o gwmpas, gwelwyd y llanw yn dod i mewn yn gyflym a bu raid iddynt redeg tuag at Portmeirion, neu Aber Iâ fel y'i gelwid ers talwm, a bu raid iddynt gerdded yr holl ffordd ar ochr Penrhyn, ac fe codwyd hwy i fyny gan William Rowlands yn ei hen Ffordyn ger y Gwaith Powdr. Pan gyrhaeddson nhw'r pentref roedd golwg druenus arnynt, gan fod y llanw wedi mynd â'u dillad sych gan iddynt newid wrth yr afon, ac fe gollodd Griffith John wats aur o boced ei wasgod.

Cofiaf unwaith i ni fynd i bysgota ger Borth y Gest ac fe ddaliodd Evie Tynbryn 'turbot' mawr, neu fel ddywedodd un o'r hen longwyr, John Dory oedd o, o'r un teulu. Roedd Evie yn y dwr i fyny at ei ganol a gallai deimlo rhywbeth o dan ei draed a chan fod ganddo bicell gydag ef, bu imi ei helpu i'w godi o'r dwr. Nid dyna ddiwedd y stori fodd bynnag, gan iddo fynd â'r peth i fyny i'r chwarel lle'r oedd yn gweithio ar y pryd, a'i rafflo a'i guddio tu ôl i'w flwch celfi, lle cedwid y powdr ar gyfer saethu. Pan aeth i'w nôl i'r raffl, doedd o ddim yna ac roedd rhywun wedi chwarae tric arno. Roedd y John Dory yn pwyso 14.5 pwys.

GWRAIG Y LLYTHYRDY

Mrs Evan Williams oedd yn cadw'r Llythyrdy pan oeddem ni'n blant ac yna ei mab, Evan Llewelyn.

PWMP DWR Y PENTREF

Byddai fy mam yn arfer son am bwmp dwr y pentref ond nid wyf yn meddwl ei bod yn ei gofio'n iawn ac rwy'n siwr mai dweud yr hyn glywodd hi gan ei mam oedd hi. Safai'r pwmp yr ochr arall i'r ffordd gyferbyn â'r man lle mae'r lle parcio nawr ac arferai gwragedd fynd yno i olchi dillad.