Chwilio

Pan oeddech yn prynu par o sgidiau gweithio cyn y rhyfel byddai’n cymryd dyddiau i ddod i arfer a nhw. Sgidiau hoelion oeddynt a byddai’n rhaid rhoi saim gwydd arnynt i’w meddalu gan eu bod mor galed. Byddaf yn meddwl yn aml am y dynion yn cerdded drwy’r Blaenau yn y bore tuag at Bwlch y Gwynt, roeddynt fel milwyr yn mynd a dod yn eu sgidiau hoelion.

Mr and Mrs Lloyd oedd yn byw yn y Ship Aground, roedd fferm yno hefyd. Pan ddaeth y llanw mawr drosodd yn 1927 fe gollodd ei wartheg i gyd oedd yn y beudy tu ol i’r Ship gan nad oedd am wrando ar y ffermwyr a oedd am iddo eu symud i fferm Ty Mawr. 'Roedd yn hen gipar ac yn ystyfnig iawn ond 'roedd wedi dod ar gwartheg o’r caeau yn ystod y dydd. Mae son fod y coed a ddefnyddiwyd i adeiladu’r Ship wedi dod o hen long ddrylliad a bod yr un coed wedi eu defnyddio i adeiladu Noddfa. Mr Evan Williams, oedd yn byw yn Noddfa, oedd berchen y stori yma.

Fe ddylwn fod wedi son am Griffith Roberts, Y Gof, oedd yn byw yn Yr Efail ar ffordd stesion, cadwai ferlen a gwartheg mewn sied agos. Yn yr haf byddai’n cario gwair o gaeau’r traeth a byddem yn chwarae wrth ymyl er mwyn cael reid ar y cert. 'Roedd ei fab Evan yn cario glo.

'Roedd Efail y Gof arall yn Eisingrug, ar y rhiw yr ochr chwith i’r ffordd, ac roedd melin yno hefyd.

'Roedd Simon Hughes, a drigai yn Gwilym House, yn bostmon ac yn deilwr, hefyd William Williams a drigai yn Ysgoldy. Gelwid un yn Seimon Teiliwr a’r llall yn William Williams Postmon. Clywais Mrs Jones, Caerwych yn dweud pan ddeuai William Williams o gwmpas gyda’r post byddai’n chwibianu o waelod y ffordd i dynu ei sylw, os mai dim ond cerdyn post oedd ganddo byddai yn ei ddarllen iddi. Byddai William Williams yn cadw dyddiadur gyda’r dyddiad cyntaf y clywai y gog, 18 Ebrill oedd y dyddiad cyntaf iddo ei chlywed.

David Jones y Crydd a gadwai’r adeilad bach tu ol i’r Post ar y ffordd stestion ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf byddai llawer yn cyfarfod yno, yn eu mysg llawer o forwyr. Byddent yn darllen y papurau yn y bore oedd yn cynnwys newyddion o Ffrainc, weithiau yn dda ac weithiau yn ddrwg. Pan oedd y newydd yn dda byddai Morgan Jones, a drigai yng Nghapel y Graig, yn cerdded drwy’r pentref i’r hen bost i roi y newydd da iddynt a chanai wrth fynd. 'Roedd Morgan wedi bod yn yr Amerig ond roedd wedi cael stroc oedd wedi effeithio ar un ochr i’w gorff gan ei wneud yn ddiffrwyth. Byddai’n dilyn yr injan ddyrnu ac roedd yn syndod ei weld yn rhawio glo i’r injan hefo un law. 'Roedd ganddo frawd John H, oedd ar un amser yn olygydd Y Brython, a gai ei olygu yn Lerpwl. Argraffwyd sawl llyfr ganddo –' O’r Mwg I’r Mynydd’ a 'Gwin y Gorffennol'. 'Roedd Talsarnau bob amser yn ei feddwl pan yn ysgrifennu.