Chwilio

Torwyd llawer o goed i lawr yn stod y Rhyfel Byd Cyntaf. 'Rwyn cofio torri llawer o goed pin, derw ac onnen yn Winllan Penbryn. Byddai dau neu dri o geffylau yn tynnu ‘bogeys’ mawr i lawr i’r stestion i’w llwytho.

'Roedd gwinllan arall gyferbyn a Bryn Awel a gafodd ei thorri i lawr hefyd – Winllan Bach Tremeifion a’r llall yn Penbryn a elwid yn Winllan Goch. Cafodd Coed Ty Mawr, wrth ochr Stabal Mail wrth ochr y ffos hefyd eu torri i lawr. Torrwyd mwy o goed yn Soar o dan Clogwyn Gwyn, hefyd yn Cae Bran a Winllan Rhosigor. Llosgwyd llawer o goed yno mewn tan ymhen blynyddoedd.

Hoffwn son y byddai Mam yn dweud, pan oedd yn hogan fach, y byddai’r dyn glo oedd yn byw yn y Briws, yn cadw ei geffyl a throl yn Coed Ty Mawr ar y tir gwastad wrth ochr y ffos, ac rwyf wedi sylwi fod marc ar y wal yno hyd heddiw lle’r oedd y giat.

Diwrnod Codi Tatws yn Llechollwyn 1988

Lewis Owen yn y cae tatws yn Llechollwyn

John Jones, Capel Fawnog oedd yr un cyntaf i gael tatws newydd, 'roedd yn arddwr da iawn ac yn gweithio i’r Arglwydd Harlech yn Stad y Glyn. 'Roedd Lewis Owen, Llety, hefyd yn un cynnar hefo’i datws a byddai’n eu gwerthu yn y pentref. Byddai ei frawd Humphrey Owen, Draenogau yn mynd a llwyth o foron a swej i’r Blaenau i’w gwerthu. 'Roedd y moron yn dair ceniog y bwndel a swej yn geiniog. Mae’n rhaid ei fod yn treulio diwrnod yn gwneud hyn gyda’i geffyl a throl. Un arall da am dyfu moron oedd William Hughes, Glasfryn a fyddai’n dweud fod ei foron gymaint a’i fraich.