Chwilio

Byddai’r hen bobl yn son llawer am Mrs Holland Thomas, Caerffynnon a arferai ddod i’r ysgol i roi gwobrau a phresantau i’r plant ar adeg y Nadolig. Ac, wrth gwrs, pan oedd yn y pentref byddai’r gwragedd i gyd yn cyrtsio iddi.

Caerffynnon 2Capten Holland Thomas, ei gŵr, a adeiladodd Caerffynnon. Capten llong oedd o ac roedd ganddo lawer o eiddo yn ardal San Francisco. Arferai gerdded i lawr y rhodfa o Gaerffynnon ac ar draws y briffordd i’r cae, lle mae’r ysgol, a dilyn y clawdd i lawr at y rheilffordd. 'Roedd pont yno ac os oedd eisiau mynd ar y tren chwifiai ei ffon i’w stopio. Wn i ddim oedd rhyw gytundeb rhyngddo fo â’r cwmni rheilffordd am fod y lein yn rhedeg drwy’i dir. Pan adewais yr ysgol es i weithio i Caerffynnon dros yr haf a chofiaf, pan oeddym yn y gwair yn y cae ger crossing Draenoga, oedd yn eiddo Caerffynnon, i Mr Haigh a’i ferch a’r forwyn ddod i lawr hefo te i ni. Wedyn aethant ymlaen i Ynys Gifftan lle roedd ganddynt gaban haf bach. Pan es adref y noson honno clywais fod y forwyn wedi boddi wrth ddod yn ôl, am fod y dŵr rhy ddyfn iddi fedru croesi ac na fedrai nofio. Nellie Thomas oedd ei henw, o Glanywern.

 

Yr Helfa

Un o deulu Aber Iâ, Portmeirion rwan, oedd Mr Haigh. Priododd â merch Caerffynnon. Byddai helfa yn y Glyn a Maesyneuadd bob blwyddyn ac fe fyddai rhai pobl enwog yn dod i’r ‘shoot’. 'Rydwi’n cofio’r Arglwydd Derby ac fe fyddai’r cipar yn dod o gwmpas y pentref i chwilio am ‘beaters’ ac roedd yn ddiwrnod oeddym yn fwynhau. 'Roedd gennym ffon fawr a byddem yn curo’r llwyni wrth fynd drwy Goed y Glyn a Coed Mawr Maesyneuadd. Pan oedd gennym dderyn yn yr awyr roedd raid i ni weiddi, “Cock over my Lord”. Yn aml, cwningen fydda’n rhedeg o’n blaen ac, unwaith, fe waeddodd un o’r dynion, yn ei gyffro, “Rabbit over my Lord”! Roedd y ciperiaid yn gwybod sut byddai’r adar yn hedfan ac yn gosod y saethwyr lle byddent yn barod i saethu. Cofiaf mai Mr Savage oedd y cipar ac hefyd John Lewis yn Glanmorfa y Warren. Arferent anfon llond trol o wningod i Manceinion ar y tren. 'Roedd ganddynt fasgedi sgwar hefo bariau ar eu traws a chwningod yn hongian arnynt.