Chwilio

'Roedd yna lawer o botsieriaid ar ôl y ffesantod adeg hynny ac roedd weiren ar y ddaear yn Coed Mawr. Petae nhw’n digwydd ei gyffwrdd fe fyddai ergyd fawr a byddai raid iddynt ddianc reit sydyn.

Yn ystod Hydref a Thachwedd, pan ddeuai’r eog i fyny’r afon i gladdu, 'roedd yr afon islaw Soar fel Piccadilly, hefo’r goleuadau. 'Roedd ganddynt lampau beics bach ac roedd gan rai lampau mwy, rhai moto beics, a oedd yn gweithio hefo carbeid.

Gweision fferm a’r injan ddyrnu

'Roeddwn yn sgwrsio hefo Morris Jones am y dynion a arferai weithio ar y ffermydd ac roedd o’n barnu fod dros hanner cant o weision, yn ogystal â morwyn, ar ffermydd Talsarnau cyn y rhyfel byd diwethaf. Erbyn hyn does dim ond nifer fechan. Yn ôl Morris, dim ond £1 yr wythnos a’i gadw, fyddai’r cyflog i ddyn profiadol iawn. Byddai’r ffermwyr yn helpu ei gilydd yr adeg honno a phan fyddai’r injan ddyrnu’n mynd i fyny rhiw’r Ship byddai saith neu wyth o geffylau yn ei thynnu a’r dynion yn gweiddi wrth fynd. Wedi gorffen yn Tŷ Mawr aent wedyn i Gefn Trefor ac yna ymlaen i’r Plas a Tŷ Newydd. Cofiaf pan oeddynt yn dyrnu yn Tŷ Mawr a chriw ohonom ni blant yno’n gwylio, ac fel daethai’r das yn agos i’w gwaelod, byddem yn barod, hefo’n ffyn a’n cwn, am y llygod mawr oedd wedi bod yn gwledda ar y corn.

Tryfera

Byddem yn mynd i’r traeth yn aml yn yr haf i ddal lleda hefo tryfar. ‘Tryfera’ oeddym yn galw’r math yma o bysgota ac fe fyddem yn cerdded i lawr tua Borth y Gest i chwilio am ‘lac’ (hen wely’r afon). Byddai’r llanw’n gadael pysgod ar ei ôl a ninnau’n defnyddio’r tryfar i’w dal. Os na fedrem ganfod ‘llac’ byddem yn mynd i’r Afon Ddwyryd ar gyfer Porthmadog a cherdded mewn llinnell syth gan barhau i brocio. Fel oeddym yn symud ymlaen gallsem weld fod y pysgod yn symud oddi wrth y swigod ar ben y dŵr, a ninnau’n cwffio’n erbyn y lli, yn cerdded ac weithiau’n nofio pan fyddai’r y dŵr rhy ddyfn. Byddai’r pysgod yn stopio’n sydyn weithiau mewn man bas oedd yn arwain allan o’r afon, a byddent o dan ein traed ym mhobman, a medraf ddweud fy mod wedi dal miloedd ohonynt yn y modd hwnnw yn fy mywyd. 'Doedd yna ddim bagiau plastig yr oes honno, felly weiren ffens dew dros ein ‘sgwyddau, yn hongian i lawr at ein traed, gyda math o fachyn ar bob pen, oedd gennym i gario’r pysgod. Ffordd arall o bysgota oedd gosod leins ar y tywod hefo dau beg i’w dal. 'Roedd rhaid i ni ddod lawr i’r traeth yn gynnar, wedi’r llanw glirio, i gasglu’r pysgod neu mi fyddai’r adar wedi eu cael nhw.

Cadw’r baco’n sych!

Aed y dynion i’r dŵr yn gwisgo hen siwt ac wedi bod yn y dŵr am hir byddai dipyn o bwysau i’w gario wrth gwrs. 'Roedd gan Hugh Owen Hughes, hen forwr o Bryn Street, hen het am ei ben bob amser. Pan fyddai’n mynd i’r dŵr hefo’i dryfar byddai’n rhoi ei faco dan ei het i gadw’n sych rhag ofn iddo gamu i un o byllau dwfn y Ddwyryd.

Hel cocos

'Roedd treulio‘r diwrnod yn hel cocos ar dywydd braf yn yr haf yn bleserus iawn ond roedd eu cario adref o’r gwely cocos, sydd rhwng Borth y Gest a Thrwyn Glanmôr, yn waith trwm. 'Roedd y bobl hŷn yn ddoethach na ni a byddent yn casglu’r cocos a’u cario at ffos fach yn ymyl y creigiau, a’u golchi a’u berwi a gadael y cregyn ar ôl, i ysgafnhau’r llwyth. Byddent yn cael picnic hefo’u plant ac yn mwynhau eu hunain ac yn edrych ymlaen am ddod yn ôl. 'Roedd hyn yn rhan o’u gwyliau. Gwnaent dân ar linnell y penllanw a berwi dŵr mewn tegell bach.

Nofio

'Roedd clwb nofio yn Penrhyn a byddent yn defnyddio’r pwll wrth y creigiau gerllaw Abergafren. 'Roedd ganddynt fwrdd plymio (diving board) yno, wedi ei osod yn sownd i’r graig uwch ben y pwll a byddem ninnau yn cerdded ar draws y traeth i nofio yno. Un tro roedd William Evans, Cefn Trefor Isa hefo ni a gwelsom fod y bwrdd yn plygu dan ei bwysau gan ei fod yn ddyn mawr! Ond roedd yn nofiwr da. Fyddem byth yn mynd a llian hefo ni ond yn rhedeg o gwmpas nes oeddym wedi sychu.

Gaeaf caled 1933 a Digwyddiad Trist

'Roedd gaeaf 1933 yn aeaf called iawn a Llyn Tecwyn isaf wedi rhewi’n galed a phobl yn sglefrio arno.  Boddwyd dau frawd Evan a Beti Coedty pan dorrodd y rhew oddi tanynt, a hwythau ar eu ffordd adref o’r ysgol. Digwyddodd ar ochr arall y llyn o dan y coed.  Cofiaf redeg i fyny o’r pentref pan glywsom y newydd drwg ac fe’u cariwyd i’r capel.  'Roeddynt wedi rhewi’n stiff a chawsom drafferth i dynnu eu hesgidiau gan eu bod yn rhew solad.  'Roedd yn ddigwyddiad trist iawn.  'Roedd eu tad ym marchnad Harlech ac aeth y plismyn i’w gyfarfod.  Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn anodd iawn iddynt ddweud y newydd trist wrtho.

Y Moto Beics Cyntaf

Pan ddaeth moto beics ar y farchnad roedd B.S.A. gan Morgan Price, Ty’n Bwlch, Triumph gan Edward Roberts, Plas, W.E. gan Wili Williams, Crydd, Sparbrook gan Griffith Defi, Felinrhyd Fawr a Wesland gan J.F. Roberts.  Tybiaf mai rheini oedd y moto beics cyntaf yn Nhalsarnau.