Chwilio

Pan yn blant byddem yn chwarae wrth ymyl yr efail, 'roedd ffos yn rhedeg o dan rhan o’r adeilad ond erbyn heddiw mae’r ffermwyr wedi gosod pibellau i’r dwr redeg y tu allan i’r adeilad.

Yn yr hen amser 'roedd yr efail ar ffordd y stesion, yn le prysur iawn lle byddai ceffylau yn aros i gael eu pedoli a chawsem waith gan Griffith Roberts, y gof, i weithio’r hen fegin fawr i gadw’r tan i fynd er mwyn iddo sicrhau fod y pedolau yn wynias yn dod allan o’r tan, a phan fyddai’n gosod y bedol ar y ceffyl gallem arogli’r carn yn llosgi a Griffith Roberts bron o’r golwg yn y mwg. Byddai wedyn yn eu rhoi mewn dwr i galedu. 'Roedd yn ddiwrnod arbennig pan ddeuai Edward Hughes Barcdy yno gyda’i olwynion trol. Byddai’n eu gosod ar ffordd stesion er mwyn i Griffith Roberts osod olwyn a fyddai’n wynias arnynt.

Yr Efail ar Ffordd Stesion

 Fe fyddai Griffith Owen, oedd yn byw yn Penbryn Las, yn mynd o amgylch y ffermydd yn gwerthu, a bag ar ei gefn. Fe gollodd dri mab yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae eu henwau ar y gofgolofn yn Llandecwyn.

Wrth i chi fynd heibio’r bocs teliffon ar ffordd stesion, ychydig yn is i lawr, arferid pwyso moch. Byddai’r ffermwyr yn dod yno ar amser penodedig gan stwffio’r mochyn i fewn i rhyw fath o focs mawr, wedi iddynt gau’r drws byddent yn cael eu pwyso. Mae’n siwr fod swn y gwichian i’w glywed o’r Penrhyn. Gwr o Harlech oedd yn gyfrifol am hyn o’r enw Price. Adwaenid ef fel Price y Moch, 'roedd wedi colli un fraich yn y Rhyfel Gyntaf. Pan byddai sioe byddai yr Arglwydd Harlech yn mynd a’i wartheg i’r stesion lle byddent yn cael eu rhoi ar wageni arbennig oedd gan y rheilffordd. 'Roedd platfform arbennig ar gyfer hyn tu cefn i’r stesion lle’r oedd y lein ddillad. Roedd yn braf gweld y gwartheg yn dychwelyd o’r sioe, yn enwedig os oeddynt wedi ennill gan y byddai rubannau a thocynnau o amgylch eu gyddfau os oeddynt wedi ennill. Byddent yn eu cerdded drwy’r pentref ar hyd y ffordd i’r Glyn ac un tro fe gafodd tarw ei ddychryn ar ffordd stesion a chafodd y dyn oedd yn ei dywys, oedd yn gwisgo siwt newydd ei lusgo ganddo ar hyd y ffordd nes daeth rhywun ati i gynnig help.