Chwilio

Byddai dynion yn dod o gwmpas y tai yn gwerthu gwahanol bethau, y ‘tin man’ o Penrhyn oedd un. Byddai’n gwneud tuniau bwyd oedd yn ffitio i fewn i boced, a felly byddai’r chwarelwyr yn cario eu bwyd, ni fyddent byth yn cario bag ar eu hysgwyddau. Gallai wneud gwahanol bethau ar gyfer y gegin hefyd.

Deuai Georgie Potiwr o Borthmadog – 'roedd yn gwerthu potiau pridd, cwpanau a soseri a manion eraill, cymerai rags a’u ffeirio am gwpanau, soseri a phlatiau. Byddai dyn yn gwerthu penwaig yn dod o Borthmadog gyda’i geffyl a throl a byddai’n gweiddi “penwaig ffres o Nefyn – 'roeddynt yn dal yn y môr bore ‘ma”. Deuai Jim Ambarel o gwmpas yn aml – byddai’n trwsio ambarels ac un arall gyda pheiriant hogi, gallai hogi sisyrnau a chyllyll a manion eraill. Gweithiai’r peiriant gyda phedal.

Ambell waith yn gynnar deuai trempyn i’r drws gyda’i dun coco a weiren yn handlen gan ofyn am ddwr poeth i wneud tê, ymhen sbel deuai ei bartner gan ofyn am damaid i’w fwyta. Byddent yn dod o’r Wercws yn Penrhyn. Un bore Sul daeth un i’r drws gyda bocs yn cynnwys ‘safety pins’ ac edau cotwm ac ambell i beth arall. Byddai’n gosod ei focs tu fewn i’r drws fel na allai Mam ei gau. 'Roedd fy nhad yn paratoi i fynd i’r capel a daeth i lawr i weld beth oedd yn mynd ymlaen gan ddweud yn ei Saesneg gorau “What are you mwmian here” – gwan iawn oedd ei Saesneg a cauodd y drws ar droed y trempyn a aeth yn flin iawn.

Ar un adeg 'roedd teulu o Sipsiwn o’r enw Abraham Wood yn arfer galw yn gwerthu a gwneud basgedi a chafodd un o’r meibion, John Valentine Wood ei gladdu ym mynwent Llanfihangel. 'Roeddynt yn rhai da am chwarae organ geg a chonsertina.