Ffermydd pella Llandecwyn
I GYD-FYND A FFERMYDD PELLA' CWM LLANDECWYN (Llais Chwefror 1985)
Nodiadau gan Ieuan Jones
Pleser o'r mwyaf oedd darllen y rhigymau yn rhifyn Ionawr a drysorwyd gan y diweddar Griff Williams a hanai'n wreiddiol o Landecwyn. Daeth yr hen rigwm am ffermydd pella'r plwyf yn fyw eto i'm cof, a syn yw meddwl nad oes ond Coedty Mawr a'r Onnen a hen frid y tir yn dal dan eu cronglwyd, fod Ty Newydd, Llennyrch yn adfeilion a'r Bragdy wedi ei symud, garreg wrth garreg, o'i lwyfan amlwg ar dro'r ffordd ychydig is na Chaerwych.
Ar droead y ganrif trigai dau deulu yn Nhy Newydd, Llennyrch. Magwyd hen daid plant Pensarn, Glanywern yn un ty, ac yn y ty arall y magwyd y rhai hynaf o blant Plas, Llandecwyn, cyn iddynt symud i lawr i'r Plas. Yno hefyd y magwyd y bardd Rolant Wyn, awdur "Dwr y Ffynnon", a symudodd gyda'i rieni i Drawsfynydd, a chredaf i'r lle gael ei ddefnyddio fel adeilad fferm y Llennyrch byth er hynny. Nis gwn ai gwir yr honiad a glywais droeon mai fy hen, hen daid Maesycaerau oedd awdur y rhigwm hwn. Erys llawer o'i rigymau a'i ddywediadau ar gof trigolion hynaf y fro.
Côr Peniel - Tra'n gweini yn Nhynybwlch soniai Mrs Griffith yn aml am gyfnod y Gwaith Mango ac am y gweithwyr a letyai yno a'r ffermydd cyfagos a'r hwyl a'r gweithgaredd a fodolai fin-hwyr, gan mai yno y lletyai John Parry, arweinydd y Côr. Y ddwy o Dynybwlch y sonir amdanynt ydoedd Mrs Lizzie Griffith, sydd wedi ymddeol gyda'i phriod i Dywyn, Meirionnydd a'i diweddar gyfneither, Mrs Laura Evans, Rhiwerfa, Abergynolwyn gynt.
Y ddwy o Blas Uchaf ydoedd Miss Lizzie Edmwnds a Mrs Sali Davies, Felinrhydfawr a ddiweddodd eu gyrfa ym Mhorthmadog. Yna'r ddwy chwaer Marged a Gwen Jones Ellis, Moelyglo a Rhosigor yn ddiweddarach. Enw dieithr imi ydyw Annie Jordan a allai fod mewn gwasanaeth yn yr ardal ond y baswr trwm oedd John Defi Roberts y Gof. Coffa da amdano a'i lais cyfoethog yn canu ar erchwyn galeri Capel Soar pan oeddwn yn hogyn. Y diweddar Sylfanws Edwards, Gafael Crwn oedd y tenor swynol a'r diweddar Gruffydd John Williams, Moelygeifr a'r Llwyn, Gellilydan wedi hynny oedd y cymeriad addfwyn. Erys Nel Esgairolwyn o hyd gyda ni yng Nghoety Mawr, yn wir nid oes ond hi a Mrs Griffith, a'r ddwy yn eu pedwar ugeiniau ar ôl o'r cyfnod gweithgar difyr hwnnw tua dauddegau cynnar y ganrif.
Y Gof Cywrain - Credaf fod y rhigwm am y gof cywrain yn perthyn i gyfnod pryd yr oedd dwy efail yn gweithio yn y cwmwd oddeutu Pentre Eisingrug, oedd yn ganolfan diwydiant y ddau blwyf. Yno ceid dwy felin flawd, gweithdy saer, llif-dy, ffatri wlân a phandy. I ddod yn ôl at y gefeiliau, safai gefail Ystad y Glyn ar fin y ffordd ychydig yn is na'r Bondwll. Gefail brysur iawn oedd hon ac erys olion tri lle tân yno i wireddu hynny. Y tri gof oeddynt Gruffydd Roberts a'i ddau fab. Gruffydd Roberts aeth wedi hynny yn ôf Chwarel yr Ocli a John Defi Roberts a gofiaf yng Ngefail Odyn Galch, Talsarnau, lle treuliais lawer o amser yn hogyn yn chwythu'r fegin fawr a gwrando'r sgyrsiau yn glustiau i gyd. Roedd arbgenigrwydd i'r teulu o ofaint hyn a chlywais y dygid erydr main o bellter i Dalsarnau gan bencampwyr Ymrysonau Aredig.
Gefail berthynol i Ystad Maesyneuadd oedd Gefail Pengarreg a darfyddodd weithio ymhell cyn diwedd y ganrif ddiwethaf a'r gof olaf ydoedd Morgan Price a symudodd i amaethu Tynybwlch lle erys un o'i ddisgynyddion o hyd.
Un arall o'r un llinach ydyw Mrs Netta Roberts, Bronwylfa sydd a'i gwreiddiau yn Ffridd Fedw a Thyddyn Sion Wyn. Fel mae hanes yn ail-adrodd ei hun dychwelodd un arall o'r Preisiaid i Dyddyn Sion Wyn wedi bwlch hir o flynyddoedd, sef Mrs Hywel Pugh a hwy bellach yw perchnogion Pen y Garreg. Tros y nant i Ben y Garreg ceir clwt o dir glas a elwir yn Faes y Powliau a chlywais y diweddar hanesydd R Jones Morris, Gwrach Ynys yn cynnig dau esboniad sef y man lle gwerthid powliau pres neu y fan lle powlid y gwartheg i'w pedoli ar y daith i Barnet. Mae ein dyled yn fawr i'r diweddar Griff Williams am gadw'r rhigymau a deffro ein cof eilwaith.