Chwilio

Dyma gopi o lythyr a dderbyniwyd oddi wrth Mr Tecwyn Jones, 8 Heol Dewi, Bangor Ucha, Bangor, yn hel atgofion am y Llanw Mawr ac yntau yn fachgen 9 oed ar y pryd. Gyda diolch cynnes iawn iddo am gysylltu.

Llanw Mawr002

Wrth weled ar y teledu, a darllen yn y Wasg am drychineb Towyn, Abergele, daeth atgofion imi am noson ym Mhentref Talsarnau yn y flwyddyn 1927.

Noson stormus, tymhestlog. Yr oedd fy nhad yn gweithio ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn gorfod aros mewn llety drwy’r wythnos, felly mam oedd adre gyda’r pump ohonom ni. Naw oed oeddwn i, a’r pedwar arall yn ddeuddeg, unarddeg,wyth a chwech oed. Diwrnod pobi bara, a ninnau’n pump wedi bod wrthi’n gwneud bara bach ein hunain fel byddai’r arfer. Byddai mam yn rhoi ychydig o’r toes inni er mwyn inni helpu. Min nos hapus.

Yn y seler ‘roedden ni’n byw yn 7 High Street, dim trydan wrth gwrs ac fel pob noson arall yn y gaeaf cyn inni fynd i’r gwely aeth mam i’r llofftydd i olau’r canhwyllau. Yn sydyn dyma’r drws allan yn agor, a dwr yn llifo i mewn, y dodrefn yn cael eu symud a ninnau’n gweiddi am mam. Setl fawr ar draws gwaelod y grisiau, felly roedd yn rhaid dringo drosti’n wlyb at law mam a diogelwch ar y llawr cyntaf a hwn yn siglo, gan fod y dwr yn y seler yn wyth troedfedd o uchder, ond mi ‘roedden i’n ddiogel, nofio ar wyneb y dwr oedd ffawd y bara, ein dillad a bwyd.

Llanw Mawr005

Cawsom fynd i gartref y diweddar Mrs Humphrey Williams i gynhesu a newid o’r dillad bwlyb. Yr oedd hi’n bryderus iawn ei hunan am ei gwr, ei mab Bobi, a’i mab yng nghyfraith, y diweddar Tom Jones, gan eu bod wedi mynd i lawr i’r Morfa cyn i’r môr ddod dros y clawdd llanw i symud yr anifeiliaid. Yn y bore cafodd y newydd eu bod yn ddiogel, ar ben tas wair yn y dwr. Gofalwr yr ysgol gafodd ei ddal yn yr ysgol hefyd, sef Mr J Jones, Cambrian. Y gloch yn canu oedd yr arwydd ei fod o’n diogel. Newydd da i ni’r plant wrth gwrs fod dwr yn yr ysgol.

Braf oedd cael mynd i’r gwely’r noson honno, codi yn y bore a gweld y Morfa’n ddwr i gyd, fel byw ar lan y môr, ond dim bwyd na dillad, y cwbl yn y dwr yn y seler. Mrs Maggie Gwyneth Jones, dros y ffordd yn rhannu bwyd a dillad ei phlant hefo ni, y fath garedigrwydd mewn cyfnod tlawd iawn.

Mae’n rhaid imi gyfaddef y byddaf yn chwysu pan yn cofio’r profiad, a sylweddoli pa mor agos oeddem at fod wedi boddi. Dyma’r noson y ganwyfd Mary Mordon yn yr Ynys.

Cofio gweld tas wair wedi dod ar wyneb y dwr i mewn i’r pentref bron, o gyfeiriad y stesion. Cael cwch o Caerffynnon i fynd â bwyd i Draenogau Mawr a Draenogau Bach, ac i’r stesion. Mr Hugh Owen, Bryn Street (hen forwr) oedd capten y gwch, ninnau’r plant wrth ein bodd yn cael mynd yn y gwch hefo fo.

Llanw Mawr004Ond y fath lanastr – gwartheg y Ship Aground wedi boddi, a defaid a gwartheg yn cael eu llosgi wrth coed Cae Bran. Y rheilffordd wedi symud oddi wrth y trac am dair milltir, coed i lawr yn y Gelli ac ar y ffordd wrth yr ysgol, ac mae gennyf gof   bach am graen mawr a ddaeth i symud pethau mawr yn y stesion fel transformers mawr i’r pwerdy Maentwrog. Tybed oes yna rhywun yn cofio enw’r peiriant? Y Normandy Box.

Yr oedd yn rhaid inni helpu adre wrth gwrs er mwyn cael trefn wedi’r dwr gilio. Hel coed yn y Gelli er mwyn cael gwres, a cofio mam yn golchi a’r dillad yn gorfod sychu ar y railings yn y pentref.

Atgofion bachgen naw oed ar y pryd a ddaeth mor fyw wrth glywed am drychineb Towyn, Abergele, ag sydd yn cydymdeimlo’n fawr gyda’r trigolion. Diolch fod cynorthwy i’w gael iddynt i leddfu’r boen rhyw gymaint, nid oedd dim o’r fath yn 1927.

R. Tecwyn Jones, Bangor.