Chwilio

ATGOFION Maggie Gwyneth Jones – a gafwyd gan ei mab, Emrys Jones.
HANES Y PARCH TECWYN EVANS A DIWYGIAD 1904-05
Capel newydd
 
 
Wedi meddwl ers tro ysgrifennu dipyn o hanes Diwygiad 1904-05.  Nid oeddwn ond 6 oed yn y flwyddyn honno, ond mae wedi aros yn fy ngho hyd heddiw ac rwyf wedi bod yn deisyfu iddo ddwad ar yn ôl lawer gwaith, ond mae’n ofnus na welaf – er bod llawer o bethau da wedi dwad, sef ysbytai, ysgolion a cholegau rhad, a gwasanaeth iechyd yn rhad ac am ddim, a phensiynau i hen bobl, a chartrefi clyd iddynt.  Rwy’n teimlo bod raid i rhywbeth arall ddod i’n diwygio fel pobl, gan ein bod yn teimlo bod rhywbeth ar goll heddiw.  Y parch dyledus i’n pethau gorau wedi mynd, a phethau gwamal a sal wedi dwad yn eu lle.  Rhyw deimlo eich bod yn cael eich gwawdio am fynd i’r capel heddiw ond o ran hynny,, beth sydd i ddisgwyl, cans gwawd gafodd Arglwydd y Ne onid ie. 
Oni fuasai’n galondid gweld yr addoldai yn llawn unwaith eto, a’r holl bobl ieuanc yn dwad yn ôl, yn lle eu bod yn gwneud y fath alanast a bygythio pobl a phlismyn, ac achosi colli bywydau, ymladd, ac yn gwneud hen bobl yn ofnaus yn eu cartrefi.  Mae’n rhaid i rywbeth ddod i’w sobri wir.  Fel dywedodd Tecwyn Evans yn ei bregeth ola’ yn Penrhyn, rhyw chwe blynedd yn ôl, (mae wedi mynd erbyn heddiw i’w gartre fry, oddi wrth ei waith, at ei wobr reit siwr).  Pregethwr mwyaf Cymru.  Ble mae’r bobl ‘ma deudwch meddai, mae y sinemas yn llawn, a’r cae ffwtbol, a’r bingos yn llawn, ac mae arnaf gywilydd o’m pobl, wedi mynd i addoli  ‘duwiau dieithr’, a gwae nhw.  
Mae wedi mynd fel Sodom wir, ond diolch, mae rhai yn dal yn ffyddlon, ac mae’r Arglwydd wedi dweud, ‘lle bynnag byddo dau neu dri’n addo’, ac roedd teulu’r Gwndwn yno yn gryno iawn, roedd Tada a finna a Geraint a Jin a Bob a Meira, wedi cychwyn tua 5 o’r gloch er mwyn cael lle, a phwy oedd wrth y drws yn aros iddo agor, onnd David a Katie ac mor falch oeddwn o’u gweld.  Roedd Lizzie a’r teulu a David Gwilym a llawer eraill o Soar.
Buom yn gwrando llawer ar Tecwyn Evans yn pregethu, er yn blant, gan y bydda Mam a Nhad fyd garw hefo fo a dyma y bregeth a fyddwn i yn fwynhau orau – ‘nag ymffrostied y cryf yn ei gryfder, na’r doeth yn ei ddoethineb – eithr ymffrostied yn hyn – ei fod yn deall ag adnabod Duw’ a.y.y.b. – (er bydda’n cyfadde hwyrach ei fod wedi ei phregethu o’r blaen, ond hitia befo.  Mae’n werth ei phregethu lawer gwaith eto, meddai) a pharch a hedd i’w lwch ddywedai i.
YCHYDIG AM DDIWYGIAD 1904-05
Rwy’n cofio y Diwygiad yn dda iawn er nad oeddwn ond chwech oed, a’m chwaer yn wyth a Robin, fy mrawd yn bedair oed.  Bydda nhad a mam yn mynd i’r cyfarfodydd gweddi bob nos, a ninnau ein dwy yn gwarchod ond un noson, aeth Robin i grio’n ofnadwy am awr heb stopio a ninna bron a mynd i grio hefo fo, isio mam oedd o, a doedd dim i’w wneud ond ei godi a lapio siol lwyd amdano a’i gario bob yn ail i Soar i gwfwr mam a dad; ond yn y Capel oeddynt felly aethom i dŷ perthynas i mam, tŷ nesa i’r Capel.  Arferai tua14 fod yno yn gwneud eu gwaith Ysgol – Jennie Roberts oedd yn yr Ysgol Ganolradd Bermo, ac mi stopiodd Robin grio ac aeth i gysgu ar ei glin hi.  Wedyn aethom ein dwy at y Capel, edrych oedd son am mam a nhad yn dwad, ac roedd llond y Capel yn llawn o bobl a phawb yn gweddio ar draws ei gilydd.  Llond y set fawr yn llawn o bobl, yn gweddio, naill ar ôl y llall, a’r bobl yn y seti yn gweiddi ‘Haleliwia, Bendigedig ar ei ben bo’r goron’, a’r lleill yn gorfoleddu ar eu gliniau yng nghornel y seti.  Roedd yn 10 o’r gloch erbyn hyn a dal ati oedd rhai, yn cychwyn adra tua unarddeg, a ninna hefo nhw – ond dyma rhyw hen wraig, Mari Williams, oedd yn byw wrth ymyl yn dod i’n cwfwr ac yn gweiddi, ‘ewch yn eich hôl, cerwch yn ôl i’r capel’ meddai. ‘mae y goleuni wedi bod fel chwa dros y capel’ ac yn ein holau aeth pawb dan ail ddechrau gorfoleddu wedyn tan hanner nos – a ninnau bron a chysgu wrth ben ein traed, ac ofn wrth gerdded adra, yn sownd yn fraich mam, a nhad yn cario Robin wedi cysgu ers oriau yn ty Anti Laura.  Anghofia’i byth mor noson honno. (Ar ôl hynny nhad ei hun fyddai’n mynd, a mam noson arall.
Roedd cyfarfod gweddi nos Lun yn Soar, ac i lawr yn Bryn Street yn yr oruwchystafell (dyna y galwyd hi) ar nos Fawrth, bob yn ail felly, am wythnosau, a bobl ifanc a rhai canol oed a hen yn gweiddio a gorfoleddu – a chael hwyl ardderchog.  Rhai yn crio a’r lleill yn mynd i ddagra wrth gyfaddef eu pechodau gerbron Duw.  Bob ystafell a chapel yn llawn i’r drws – amser bendigedig, cyfarfodydd hwyliog a dwsinau yn rhoi eu hunain o’r newydd i’w Gwaredwr, ac y mae ei ddylanwad yn aros hyd heddiw – felly nid yw ryfedd imi fod yn caru y pethe gorau, gan mai felly y cychwynwyd ni yn swn y Diwygiad 1904-05.
Pan euthum i’r Ysgol, yr un peth oedd yn y fan honno – cyfarfod gweddi amser chwarae, yn iard yr Ysgol.  Hel priciau yn y coed ar ôl dod adre o’r Ysgol – hel y priciau yn gyntaf, cwarfod gweddi wedyn a’r hogia ar ben y coed yn torri pricia crin, canu yn y fan honno wedyn – ‘ar ei ben bo’r goron’ a ‘diolch, diolch iddo’ nes oedd yr hen greigiau, Clogwyn Gwyn yn diasbedain.  Gweiddi ‘Haleliwia ar Hen Glogwyn a’r garreg ateb yn gweiddi Haleliwia yn ôl, yn hirach o lawer na ni.  Gwrando ar Billy Graham rhyw noson, o Kelvin Hall, yn dweud fel roedd y bobl yn stopio i’r disgyblion ganmol Duw a dyma ei eiriau – ‘(if my disciples stop preaching, the Rocks will shout aloud’.  Os wyf yn cofio’n iawn, Evan Roberts, Egryn gychwynnodd y Diwygiad, a’i chwaer, ac Evan Roberts y Diwygiwr gafodd ei enw ar ôl hynny.  Byddai’n mynd o gwmpas i gynnal cyfarfodydd a channoedd yn rhoi ei hunan o’r newydd i’r Arglwydd, a chlywyd erioed weddio tebyg.  Roedd y llen yn denau a’r llef yn agos iawn atom.  Mae dylanwad y gweddio hwnnw wedi dal.
Dyna ddywedodd y Parch D Tecwyn Evans yn ei gyfarfod pregethu olaf yn Penrhyn.  Clywsom lawer o’i bregethau grymus ers pan yn blant a’r bregeth yma byddwn i’n ei fwynhau.  ‘Nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder, na’r doeth yn ei ddoethineb, eithr ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall ac adnabod Duw.’  Byddwn ni yn blant tua 8 i 10 oed, yn arfer codi pennau y pregethau bob Sul, ar lyfr bychan, ond mae’r arferiad wedi mynd ers blynddau, fel llawer o bethau da arall.  
Byddai Eisteddfod boblogaidd iawn bob Pasg yn Soar ac un o’r testunau oedd gwobr i blant 10 i 14 oed, am godi pennau y pregethau am y mis o flaen yr eisteddfod.  Ond wrth gwrs nid oes son am yr Wyl Pasg ers llawer o flynyddau.  Byddai cyfarfod y pnawn a’r hwyr a chorau mawr a chorau meibion, a phob math o gystadlaethau, corau plant ac ‘action songs’, a dadleuon ac adroddiadau, llythyr caru, gwobr am ffon a gweu sanau.  Mae chwith garw ar eu holau a’r cyfarfodydd ‘amrywiaethol’ oedd ledled yr ardal bob wythnos bron drwy’r gaeaf a byddai pawb yn eu mwynhau ac wrth eu bodd.  Ond erbyn heddiw, mae’r radio a’r teledu wedi dwad i gymeryd eu lle, ac mae’r ieuenctid yn cael colled garw hebddynt.  Rhyw deimlo byddaf bod y genhedlaeth yma yn mynd yn ddiog eu meddwl a ddim yn cael dysgu, meddwl drostynt eu hunain; pethau ‘readymade’ sydd heddiw.  Mor ddifyr fyddai yn y ‘Band of Hope’, dysgu canu emynau a dysgu y solffa, a darlith ar ddirwest a.y.y.b.  Nid oes son am ‘Band of Hope’ rwan.  O flaen y cyfarfod gweddi nos Lun byddai am 6 o’r gloch, neu nos Fercher o flaen y Seiat.
 
DARN ETO O HANES WNAETH FY MAM EI YSGRIFENNU (gan Emrys Jones)
Rwy’n cofio ni yn mynd i Bwllheli dros y Sul i aros hefo Anti Lizzie.  Roedd gen i gôt fawr ddu. ‘mourning’ ar ôl nain Tynllan.  Roedd Gweinidog yn yr un ‘carriage’ trên â ni, ond aeth i lawr yn Afonwen, a’i ‘topcoat’ hefo fo a’i het.  Ond pan ddaethom i stesion Pwllheli dyma ni’n tynnu y cês i lawr a fy nghôt fawr ddu – ond beth oedd yno ond ‘topcoat’ y Gweinidog, ac yntau wedi mynd â un finna.  Aethom at y ‘Station Master’ a ffoniodd yntau i Afonwen a daeth fy nghôt inna yn ôl hefo’r tren olaf.  Bu hwyl garw hefo Ebie druan ynglyn â’r gôt.
Bu Lizzie yn aros yn Gwalia Café, fel ‘confectioner’ pan oedd tua 18 oed hefo Mrs Wallis Thomas, mam y person W Thomas.  Roedd o tua 2-3 oed adeg hynny ac aeth Lizzie yn wael hefo ‘rheumatic’ yn ei choesau ac anfonodd mam fi yno yn ei lle am rhyw bythefnos. Cyrraedd Pwllheli tua 5 o’r gloch, es i fyny i Gwalia ond nid oedd Mrs Thomas yn fodlon imi ddwad yn ei lle am nad oeddwn yn ‘confectioner’ felly.  Bu raid imi ddwad adra yn ôl hefo trên tua 8.30 a hwnnw ddim yn dwad ond i Port erbyn 9.30.  Felly bu raid imi gerdded adra hefo fy nghês o Port bob cam i Dalsarnau.  Roedd tua 10 arnaf yn mynd trwy Minffordd a bobl yn edrych arnaf fel pe buaswn ar rhyw ddrwg, dwad i lawr heibio’r Eglwys, pasio y Stesion a thrwy’r bont ac wedi cerdded ar hyd y lein i Stesion Talsarnau.  Diolch bod hi’n fis Mehefin ac yn olau tan 11 o’r gloch.  Dwad i fyny a phasio siop J David ar y gongl, ac roedd Bobi yno a daeth i helpu fi i gario y cês i fyny.  Es adra ar fy union wedi blino’n ofnadwy.  Roedd yn llwyd dywyll pan gyrhaeddais y ty ac edrychais trwy ffenast y gegin a gweld mam a nhad a Lizzie yn siarad wrth gael cwpaned wrth gychwyn i’w gwely.  Gwelodd mam fy ngwyneb ac es i’r ty.  Nid oeddynt yn coelio fy mod wedi bod yn Pwllheli ac yn ôl, ac anghofia i byth y siwrne honno.  Ni chefais baned o de na dim ganddi.  Roedd mewn tymer ddrwg sobr am fod Lizzie yn sal ac yn adeg brysur arnynt, a bu gas gennyf glywed son am y Mrs Wallis Thomas byth mwy.
Rwy’n cofio ni’n mynd i Bwllheli hefo trên deg a Lizzie yn priodi hefo Ebie – amser y Rhyfel gynta ac yn y ‘Navy’ oedd o, priodas dawel iawn (fel roedd amser Rhyfel), arian yn brin a ‘ration’ ar fwyd – a ‘just navy pay’ oedd ganddo a hwnnw ond rhyw £2 amser hynny.  Hughie Green ei gefnder oedd y gwas ac aeth Lizzie a finna i ty ‘Taid’ Ebie, ty ar y gongl wrth y stesion ac yno roedd Ebie a’i gefnder yn eistedd.  Wedyn aethom ein pedwaar i fyny i’r ‘Registry Office’ ac wedi i hwnnw eu priodi, aeth Ebie i’w boced i nôl pres i dalu iddo, ac nid oedd golwg ar y papur punt roedd wedi ei gadw yn ei boced i dalu.  Aeth allan yn syth ac i lawr i dy ei Daid, gan iddo gofio mai yno y bu ddiwetha a dyna lle roedd y papur punt a paced gwag o fags, yn nghefn y tân, ymysg y glo mân, lwcus nad oedd llawer o dân yno.  Ond bu honno yn stori go ddoniol i ni ein pedwar am dipyn.  Rwy’n credo inni fynd i lawr i Morfa, cartre Ebie wedyn, a dod adra i Gwndwn dros y Sul.
Roedd William Jones, tad Ebie, yn ddyn dymunol iawn, morwr wrth ei alwedigaeth a bu yn Gapten ‘Lifeboat’ Pwllheli am flynyddau, hedd i’w lwch.  Yn Portmadoc ddaru ni ein dau briodi, a cael ein ‘reception’ hefo Anti Eliza Port yn y ‘Conservative Club’.  Yno roedd hi yn byw a daeth Anti Jenni, Bermo i helpu hefo’r bwyd ac Anti Hartriet.  Maggie Anne oedd y forwyn a Rhys Stiniog yn was – a daeth Robin, fy mrawd a dwy gyfneither Bobbie.  O Port daeth Bessie yno hefyd a hefo ‘rhen gar Ford, W R Jones aethom yno a mynd i Griccieth am dro a dwad adra yn ôl i Gwndwn a mynd i lawr i Tynyberth gyda’r nos. ac i dy Nain Bobbie, sef Rhif 10 Lloyd Street.  Ar ôl i Nain druan farw, buom ni ein dau yn byw yn y tŷ am 30 mlynedd.  Hen dŷ ddigon sal, ond roedd yn dda ei gael, gan fod tai yn brin sobr yr amser hynny a dim bildio o achos y Rhyfel.  Bum yn byw adra am hir iawn, ac yn Fronyw, yn tŷ Jane Evans – ei gymryd yn ‘furnished’ a hithau yn wraig weddw, ac wedi mynd yn ôl i Gaerffynnon yn gogyddes.  Oddi yno y priodwyd hi ac Ewyrth Huw, mab yr hen Pegi Evans Castell, chwaer i hen nain Gwndwn.  Mae son am ‘Pegi’r Pabwyr’ yn llyfr Gwyneth Vaughan, sef ‘O Gorlannau’r Defaid’ neu ‘Plant y Gorthrwm’.  Byddai Pegi yn Bostwraig a bydda yn hel pabwyr ar y mynydd i wneud canhwyllau brwyn.  Yn hen fwthyn o’r enw Castell roedd Pegi ac Ewythr Hugh yn byw.  Roedd yn dŷ bach del iawn pan oeddwn ni yn blant – dim ond llawr a siambar, dim pantri na dim, ond cwpwrdd yn y gegin i gadw bwyd a llestri, simdde fawr, felly roedd tai amser hynny.  Roedd yn daclus iawn gan fod Ewythr Hugh yn ‘joiner’ da ac yn tacluso o gwmpas y tŷ, ond ar ôl ei fam farw, mi briododd o gogyddes o Gaerffynnon.  Roedd o hefo Capten Thomas yn saer coed a chanmoliaeth mawr iddo fel saer a gweithiwr tawel gonest.  Ond nid oedd yn ddyn cryf a bu farw yn ddyn ifanc oddeutu 40 oed.  Mi gefais i feibl neis iawn i gofio amdano a bum yno lawer hefo modryb i gadw cwmni i Pegi, pan oeddwn tua 14 oed.  Mi gafodd bob un o’r plant beth i gofio amdano.  Rwy’n credo mai ei wats arian gafodd fy mrawd Ebie. A nhad a gafodd lawer o’i gelfi, at wneud gwaith coed.
Roedd Fronyw yn bentra bach go brysur pan oeddym yn blant, bob tŷ yn llawn – tŷ cynta’ John Williams, crydd gyda theulu o 8 o blant ac yn cadw gweithdy crydd mewn rhyw hen sied wrth y gât.  Ninna’ yn mynd a’n sgidiau yno i’w trwsio.  Roedd yn gwadnu a rhoi sowdl ar sgidia a rhoi pedolau a clemia, a rhes o hoelion ynddynt.  Dim ond rhyw 3 neu 6 cheiniog fyddai yn codi am roi pedol a chlem, ond roedd ceiniogau mor brin pryd hynny.  Bydda Robin yn cael cerydd yn aml ganddo am gicio blaena ei sgidia, ond fel yna mae bob plentyn ynte.  Hen greadur ffeind iawn oedd o a byddem yn cael eistedd yn y gweithdy hefo fo, wrth y tân, nes bydda’n sgidia yn barod. 
Roedd ganddo fab, Richard Thomas tua 18 amser hynny, yn was yn Cefntrefor Isa, ac roedd ganddo feic  ‘penny farthing’ – a bydda’n mynd ar hwnnw bob pnawn Sadwrn braf i fyny am Soar, fo a’i frawd, i ddysgu reidio y beic, a byddant mor uchel a wal cae mawr sydd o flaen Gwndwn.  Rwy’n credu fod John Williams, gŵr Sianw gynt, yn un o’r teulu.  Hen deulu nobl iawn oeddynt.  John a Liza Jones oedd yn tŷ canol a Hugh Evans yn y pella, ac roedd y tri tŷ arall yn llawn hefyd, a bu rhyw Evan Briltiano? o Port yn cadw gweithdy yn ei ardd, yntau yn saer coed a paentiwr, fellyr oedd yn Fronyw yn le diwyd iawn, ac ieir a chwt mochyn yn bob tŷ.  Byddai Liza Jones yn gwneud burym gwlyb a’i werthu.  Hefyd yn gwneud gwin, ond o ran hynny byddai bob teulu yn gwneud digon o win mwyarduon a gwin ysgawen i bara ar hyd y gaeaf, a phawb yn crasu bara a gwneud bara ceirch bob wythnos, gan mai bwyd cartre oedd pawb yn byw arno, ac roedd pawb yn iachaol – ond nid oedd bobl yn byw i fynd yn hen iawn.
Nid oedd y cyffuriau sydd gan y meddygon heddiw at wella, i’w cael adeg hynny, dim ond rentu riwbob (tincture of rhubarb) a bara gorig a squills a llaeth a mêl, a gwin ysgawen at anwyd.  Rwy’n cofio Isfryn yn pregethu yn Soar, a rhyw gi bach yn dwad i mewn hefo Blodwen Ty’n Llwyn, ac ôl a blaen yn y capel ac yn tynnu sylw ni y plant.  A dyma fo yn dweud, mae’r ci bach yn ddel iawn ond allan mae ei le.
A tro arall roedd yn pregethu ar fore Sul, ar Judas yn bradychu Iesu Grist a dyma geiliog Dafydd Williams yn dechrau canu wrth ddrws y capel.  Rwy’n cofio ambell i dderyn yn dod i mewn trwy y ffenest, a wennol yn dod i mewn a tynnu sylw ni, a dyma’r pregethwr yn dweud – mae lle i’r wennol fach hefyd yn Nhŷ Dduw.  (Llawer o bethau yn dod i’r cof).
Captain Roberts, Tŷ Gwyn (tad Mrs Janet Roberts) yn mynd hefo cwch i Portmadoc i nôl bara i bobl yr Ynys, a dyma don fawr yn dwad ar ei ffordd yn ôl a throi y cwch a bu rhaid iddo nofio o trwyn y gwellt, Aber Ia, bob cam i’r Ynys.  Bu bron iddo foddi.  Dro arall aeth i nôl dŵr glân i ffynnon Chollwyn.  Yno roedd bobl yr Ynys yn cael dŵr, rhyw bwll o ffynnon ddyfn a dyma fo yn syrthio ar ei ben iddi, a’i draed i fyny, ag onibai am Johnie Chollwyn (gwas Collwyn tua 18 oed) mi fuasa wedi boddi; ei dynnu i fyny gerfydd ei draed a Johny Berthen Gron oedd digwydd ei weld.  
Dechrau’r dydd yn iawn a’i ddiweddu’n ddiolchgar.
Nid yw wedi addo llwybr esmwyth – ond addo cerdded y daith hefo ni.
Mae’r gelyn yn gryf ond cryfach yw Duw.
Llusern yw dy air i’m traed.
Jubilee Capel Brontecwyn 1954.  Ganwyd Nerys.  Ffôn yn dod o Soar.
Tecwyn yn pregethu ei bregeth gynta yn Soar a gwenyn yn disgyn ar ei drwyn.
It was not what they said – but what they did.
Great men have wonderful mothers – so much to do – so little done.   W Churchill
Don’t thank me – nor my men.  I know my men have been wonderful, but thank the Lord.
Montgomery at Tripoli.