Chwilio

JOHN IEUAN JONES, TALSARNAU

 

Ganed leuan yn Nhalsarnau yn un o chwech o blant a aned i Robert a Maggie Jones. Rhieni rhagorol, å'u teuluoedd wedi eu gwreiddio yn nwfn yn naear eglwys Soar, rhwng y mör a'r mynydd.

Gadawodd yr eglwys hon ei höl er gwell ar lawer o'i haelodau; nid Ileiaf ar leuan. Wedi cyfnod yn ysgol Talsarnau treuliodd ychydig dymhorau yn ysgol y Bermo. Yn ei arddegau cynnar bu'n glaf ac yn gaeth yn Ysbyty Blaenau Ffestiniog, ac ymadawodd o'r ysgol yn bedair ar ddeg mlwydd oed. Dlilynodd grefft gwas ffarm abu'n gweini ar nifer o ffermydd y fro.

Cyfarfyddais leuan gyntaf pan euthumyn weinidog i Dalsarnau yn 1950, pan oedd ef a'i briod, Tywyna Haf yn byw yng Nghån y Coed Isaf, Llandecwyn, tyddyn i deulu Plasbychan perthynol Llandecwyn. Roedd ymweld å Cån Coedyn fwynhad pur gan mor gynnes y croeso a difyr y gwmniaeth. Bendithiwyd hwy ag un ferch fach mwyaf pert, Lona, a mab bychan Medwyn.

Y fi gafodd y fraint o'i fedyddio. Prin oedd y cyflog a hir yr oriau rhwng gweini yn y Plas a thrin y tir gyda'r hwyr. Yn groes i'w ananiad naturiol cefnodd leuan ar alwad tir a'r bugeilio, ac aeth i weithio ar y rheilffordd, symudodd y teulu i Stabal Mail.

Yn nechrau'r saithdegau gadawodd gwmni'r rheilffyrdd a dechreuodd weithio fel Swyddog Llesdan Adran Addysg Meirionnydd. Symudodd y teulu i fyw i Tegfan, Cilfor, ger Talsarnau a thrigodd y teulu yno am tua pymtheg mlynedd.

Ymddeolodd o'i swydd oherwydd clefyd y galon, ac yna wedi seibiant i adfer ei nerth prynodd dyddyn 'Tan y Coed' yn Nyffryn Ardudwy. Roedd galwad y tir a chreaduriaid y maes yn drech nac unrhyw alwad arall. Ymhyfrydai leuan yn ei dreftadaeth deuluol a Christnogol, a'r hyn a etifeddodd fel Cymro, ac fel gwr o Feirion a'i wreiddiau yn Ardudwy.

Trwythodd ei hun yn hanes ei fro a'i sir gan ymgyfarwyddo yn ei hanes a'i llén, ei gwerin a'i gwjrenwog. Gwnaeth ei ran yn gyd wybodol fel aelod ffyddlon a gweithgar yag nghapel Bryntecwyn am yn agos i hanner can mlynedd. Rhoes af a'i briod groeso i weinidogion, cennad a chyfeillion ar aelwyd Tegfan. Bwriodd ei hun iweithgarwch Cyngor Plwyf yn Llandecwyn a Thalsarnau. Ym serch o ddyn y werin gyffredin ffraeth, roedd wrth eitra fod cymeriadau fodd cyffredin/anghyffredin ei gynefin.

Nid rhyfedd fod ganddo gyfeillion lu ac yntau yn Wr mor hyfryd ei gwmni, eang ei ddiddordebau, llawn hwyl a direidi. Os oedd leuan yn fugail wrth reddf, yr oedd hefyd yn fardd wrth anian. Enillodd dros ugain o gadeiriau eisteddfodol gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Wladfa. Aeth ef a'i briod i Batagonia am yr achlysur i gludo cadair o bren caled yr Andes i aelwyd Dan-y-Coed.

Bu agos i'r brig rhagor nag unwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ei gyflwyniad i gyfroly pedwerydd yng Nghyfres leuan Beirdd Bro dywed y prifardd Alan Llwyd gallaf adnabod bardd pan fyddaf yngweld un, a dim ond bardd allai lunio englyn fel yr un a ganlyn gyda'i gynildeb cywasgedig a'i urddas ymataliol.

Mis Mai

Hen fuwch y borfa uchel — heb arwy,
A baw'r heddiw'n dawel,
A dail Mai fel diliau mél
Wedi rhoswellt y rhesel.

Y mae calon leuan yn ei englyn luniodd wedi colli ohono ei annwylyd, Tywyna Haf.

Ein heilun aeth o'n gofal ni a'r ol,
Tua'r wawr yn heini,
Nefol Dad, gofala di
Yn dyner iawn amdani.

Cydymdeimlwn å Lona a Medwyn a'r holl deulu yn eu hiraeth hwy amdano. Bu farw leuan 17 Chwefror a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Newydd Dyffryn Ardudwy, ar gwasanaeth yng Nghapel Rehoboth dan arweiniad y Parchedigion Brian Evans, R.Glyn Williams a Gwyn Thomas yn ei gynorthwyo.

Hugh Rowlands