Ymddangosodd y gerdd yma o eiddo Esther Jones, (nee Williams), Caerwych, Llandecwyn yn Y Gwyliedydd Chwefror 1992. Cerdd arobryn Brontecwyn 1923.
Yr Olygfa o Eglwys Landecwyn
Os golygfa wir ardderchog fynnwch gael, wel cofiwch hyn –
Dringwch lethrau serth Llandecwyn at yr eglwys ar y bryn,
Ac o’r fynwent annwyl honno, bro unigedd y rhai gwyw,
Ceir golygfa deg a’ch swyna; mangre gysegredig yw.
Ar y ddeheu, gwelaf Moelwyn; dacw Cnicht ymhellach draw.
Carnedd Dafydd a Llywelyn saif heb arswyd, ofn na braw.
Dacw’r Wyddfa yn eu hymyl, fel brenhines syth ei phen;
Oni ddylem ymfalchio ei bod hi yng Nghymru wen?
Wele afon Ddwyryd brydferth yn ymdroelli tua’r traeth;
Tros ei glannau gwelaf Penrhyn, ar fy nghyfer fel y saeth.
Gwelaf Foel y Gest yn amlwg, a Phortmadog wrth ei droed,
A Thremadog ‘chydig pellach, a Phenmorfa gyda’i goed.
Dacw gastell Cricieth, hefyd; ac yn union dros y don,
Gastell Harlech saif yn gadarn, lle bu milwyr dewr a llon.
A lle trigai (medd traddodiad) ferch i Lŷr, sef Branwen lân
Groesodd dros y tonnau welaf, gyda’r cawr, Bendigaid Frân.
Gwelaf Braich y Pwll yn estyn draw ymhell i donnau’r aig.
Dacw’r Eifl i’w gweled, yng ngwastadedd Llŷn ddigraig.
Gwelaf gip ar forglawdd Padrig, terfyn gynt ar wlad a’i stŵr –
Ond mae Cantre’r Gwaelod heddiw, ‘nhollol dawel dan y dŵr.
Ac ynghanol Môr Ceredig, gwelaf Ynys Enlli dlos,
Lle y gwelwn olau’n fflachio pryd y sylwn arni’r nos.
Mae’r goleudy enwog acw’n annwyl gan holl hwylwyr aig
Gan ei fod yn gymorth iddynt rhag eu dryllio’n erbyn craig.
Gwelaf Ynys Lanfihangel gyda’i chaeau eithin gwyrdd.
Dacw’r Gifftan dlos yn bellach, draw ynghanol tonnau fyrdd.
Wele bentref bach Talsarnau, draw yn dawel yn y pant.
Dacw ysgol ddel Llandecwyn, lle y clywais sŵn y plant.
Ac mor ddifyr ydyw gwylio ar ryw hwyrddydd teg o haf
Yr haul mawr yn araf fachlud dros y gorwel acw’n braf.
Gwna’r olygfa i mi deimlo fod rhyw swyn i mi mewn byw
Er cael gweled ardderchogrwydd a gogoniant cread Duw.