Chwilio

Capel y Graig

Gan y Parch Dewi Tudur Lewis

Capel newydd

 

Yn ei lyfr ar hanes y Bedyddwyr yn yr ardal, mae’r Parchedig Samuel Pierce yn cyfeirio at achos gan y Bedyddwyr ym Mryn y Bwa Bach yn 1763 a bod oedfaon yn cael eu cynnal yno am 2.00 o’r gloch ar y Suliau. Mae’n debyg mai dyma gychwyn yr achos yn Nhalsarnau. Ebeneser oedd enw’r capel ond wn i ddim pryd cafodd ei adeiladu na’i sefydlu fel man addoli.

Dyma rai atgofion personol. Ceridwn Jones, neu Dodo Bwthyn, i roi ei henw poblogaidd arni, oedd yn gyfrifol am gynnal yr achos pan ddois i i’r ardal ym 1982. Hi oedd yr ysgrifenyddes a’r organyddes. Roedd yn gymeriad ffraeth a gwreiddiol iawn.

Daeth y Parchedig Tecwyn Ifan i bregethu ar y Sul ym mis Hydref, cyn y Dydd Llun Diolchgarwch. (Ar y 3ydd dydd Llun yn Hydref fel arfer) Fe arhosodd Tecwyn hefo Ceridwen Jones ar y nos Sul i arbed teithio er mwyn cynnal yr Oedfa Diolchgarwch ar y dydd canlynol. Wrth ddiolch yn gyhoeddus am y croeso ar y pnawn Llun, dywedodd Tecwyn Ifan ei fod wedi mwynhau’r croeso a chael “ambell i fwgyn” hefo Dodo!!  Dyna’r tro olaf i Tecwyn gael gwahoddiad i bregethu yno!!

Bum yn pregethu aml i dro yng Nghapel y Graig. Dyma rai o’r gynulleidfa dwi’n gofio yno. Mrs Kate Williams, Ty’n y Fron, Mrs Agnes Evans, Cefn Trefor Isaf, Mrs Nelta Roberts,, Bronwylfa, Mrs Iona Aubrey, Garth Byr.  Daeth yr achos i ben a gwerthwyd yr adeilad rhywdro yn 1990au.