Ar un adeg yr oedd yr afonydd Glaslyn a’r Ddwyryd yn uno ger Eglwys Llanfihangel ac yn rhedeg i’r môr ar hyd Morfa Harlech. Soniwyd mai yn y cyfnod hwnnw yr adeiladwyd yr Eglwys i geisio, medde nhw, droi trigolion yr Ynys a'r ardal yn Gristnogion. Yr hyn sydd gywir ydyw i’r Eglwys gael ei hadeiladu fel capel anwes i blwyf Llandecwyn tua chanol y ddeuddegfed ganrif. Daeth Tecwyn Sant i’r ardal hon ar ddechrau’r ganrif a sefydlu eglwys yn y man lle saif Eglwys Llandecwyn heddiw.
Nid oes eglwys arall yng Nghymru wedi’i chysegru i Decwyn Sant. Tu mewn i fynwent Eglwys Llanfihangel y Traethau, gyferbyn â drws Eglwys Llanfihangel mae carreg fedd hynafol a diddorol sydd wedi denu sylw llawer o bobl yn y gorffennol gan ei bod yn dyddio’n ôl i 1150. Dyma fel mae’r ysgrif Lladin sydd arni.
HI (c) EST SEPULECRU (m) WLEDER MAT (r)IS ODELU Q (n) IP (r) EDIVICAV (it) HANC EC (c) L (esi) A (ni) IN TE (m) P (a) R (a) R (e) EWINI REG (is).
Mae’n dweud – ‘Dyma lle y gorwedd Wleder mam Odeleu adeiladodd yr eglwys hon gyntaf yn amser y Brenin Owain.’
Ni wyr neb am Wleder nac Odeleu ond y Brenin Owain oedd Owain Gwynedd.
Mae’r garreg hon yn bwysig am dri rheswm.
- Noda’r cyfnod yr adeiladwyd yr eglwys gyntaf.
- Dyma’r unig garreg o’i bath ym Meirionnydd ac nid oes ond deg o’i bath yng Nghymru.
- Mae’n gofnod cyfoes o wr amlwg yn hanes Cymru
(Diolch am ganiatad Mathew John Jones i gynnwys y testun uchod)