Mari'r Fantell Wen
Cyfrinwraig a sefydlodd gwlt Cristionogol yng ngogledd-orllewin Cymru yn ail hanner y 18g oedd Mary Evans, a adnabyddid fel Mari'r Fantell Wen (1735? – 28 Hydref 1789).
Ein prif ffynhonnell am ei hanes yw'r llyfr Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhos-lan.
Roedd Mari'n enedigol o Ynys Môn ond ymsefydlodd ym mhlwyf Maentwrog, Gwynedd. Dywedir iddi adael ei gŵr a chanlyn gŵr priod arall a chael merch ganddo.
Roedd hi'n credu ei fod wedi ei dyweddïo â Iesu Grist a bod unrhyw beth a wneid er ei mwyn hi yn gyfystyr â gwenud hynny ar ran yr Iesu ei hun. Ymunodd nifer o bobl o'r hen Sir Gaernarfon yn ei chwlt yn enwedig yn ardaloedd Ffestiniog, Penmachno a chyffiniau Harlech yn Ardudwy. Mae'n bosibl fod gorhendaid T. Gwynn Jones, gŵr o Benmachno, yn un o ddilynwyr Mari.
Fel dilynwyr y broffwydoles Seisnig Joanna Southcott, credai ei dilynwyr na fyddai hi byth yn marw. Trefnwyd priodas a neithior rhyngddi â Iesu Grist yn Ffestiniog a daeth cannoedd o bobl yno. Gwisgodd Mari fantell ysblennydd, yn rhodd gan ei dilynwyr. Disgrifir hyn fel "oferedd" - cynhaliwyd y briodas ar y Sabbath - ac "ynfydrwydd" gan Robert Jones yn Nrych yr Amseroedd.
Bu farw Mari yn 1789 yn Nhalsarnau. Gwrthododd ei dilynwyr gredu'r ffaith a chadwyd ei chorff am hir cyn ei gladdu o'r diwedd ym mynwent eglwys Llanfihangel-y-Traethau, Meirionnydd.