Cor Cana Mi Gei
Ffurfiwyd Côr Merched 'Cana Mi Gei' ar ddechrau Haf 2010 ac maent yn canu cymysgedd o ddarnau traddodiadol a chyfoes. Gyda tua 30 aelod erbyn hyn, yr arweinyddes yw Ann Jones, Porthmadog a'r gyfeilyddes yw Elin Williams, Talsarnau. Daw llawer o'r aelodau o Ardudwy ac eraill o Borthmadog, Tremadog a Phenrhyndeudraeth.
Mae'r côr wedi canu mewn nifer o gyngherddau lleol ac maent hefyd wedi canu gyda Chôr Merched Radcliffe yn Nottingham ac wedi bod ar daith i Galway, Iwerddon gyda Chôr Meibion Ardudwy.
Mae'r merched yn cyfarfod am 8 o'r gloch bob nos Fawrth i ymarfer yn Neuadd Gymuned Talsarnau. Os dymuna unrhyw un ymuno â'r côr, a fyddwch gystal â chysylltu ag Ann Jones, neu unrhyw aelod o Cana Mi Gei.
Llongyfarchiadau enfawr i'r Côr Merched lleol, Cana Mi Gei ar eu llwyddiant yn eu cystadleuaeth gyntaf erioed. Cynhaliwyd Gwyl Gerdd flynyddol yn Ysgol King's, Caer, ers sawl blwyddyn bellach, a phenderfynodd Ann Jones, yr arweinydd, y byddai'r côr yn cystadlu yn Adran y Corau Merched ar ddydd Sadwrn 17eg Mai 2014.
Y beirniad oedd Yr Athro David Hoult, ac fe benderfynodd ef mai Cana Mi Gei oedd yn haeddu'r wobr gyntaf. Y wobr oedd Cwpan Stamford. Diolch i Ann ac i gyfeilydd y côr, Elin Williams, am eu holl waith.Cor Cana Mi Gei
Ffurfiwyd Côr Merched 'Cana Mi Gei' ar ddechrau Haf 2010 ac maent yn canu cymysgedd o ddarnau traddodiadol a chyfoes. Gyda tua 30 aelod erbyn hyn, yr arweinyddes yw Ann Jones, Porthmadog a'r gyfeilyddes yw Elin Williams, Talsarnau. Daw llawer o'r aelodau o Ardudwy ac eraill o Borthmadog, Tremadog a Phenrhyndeudraeth.
Mae'r côr wedi canu mewn nifer o gyngherddau lleol ac maent hefyd wedi canu gyda Chôr Merched Radcliffe yn Nottingham ac wedi bod ar daith i Galway, Iwerddon gyda Chôr Meibion Ardudwy.
Mae'r merched yn cyfarfod am 8 o'r gloch bob nos Fawrth i ymarfer yn Neuadd Gymuned Talsarnau. Os dymuna unrhyw un ymuno â'r côr, a fyddwch gystal â chysylltu ag Ann Jones, neu unrhyw aelod o Cana Mi Gei.
Llongyfarchiadau enfawr i'r Côr Merched lleol, Cana Mi Gei ar eu llwyddiant yn eu cystadleuaeth gyntaf erioed. Cynhaliwyd Gwyl Gerdd flynyddol yn Ysgol King's, Caer, ers sawl blwyddyn bellach, a phenderfynodd Ann Jones, yr arweinydd, y byddai'r côr yn cystadlu yn Adran y Corau Merched ar ddydd Sadwrn 17eg Mai 2014.
Y beirniad oedd Yr Athro David Hoult, ac fe benderfynodd ef mai Cana Mi Gei oedd yn haeddu'r wobr gyntaf. Y wobr oedd Cwpan Stamford. Diolch i Ann ac i gyfeilydd y côr, Elin Williams, am eu holl waith.