Chwilio



Pentre Soar
 
 
Pentre bach Cymreig oedd Soar, yn cysgodi o dan Allt Cefntrefor a Chlogwyn Gwyn.
Yn ystod y rhyfel, ac am lawer blwyddyn wedyn, gyda’r Capel (Wesla) yn ganolbwynt, pedwar ar ddeg o dai a deg yn perthyn i’r Capel, un car, ambell feic modur a llawer beic bach oedd yno.  Cerdded fyddai rhan fwyaf o’r bobl, pawb yn gymdogol ac yn edrych ar ôl ei gilydd. Mae’n siwr fod anghytuno ambell waith, ond dim ond yn cofio’r amser gorau.
 
Bûm yn byw yno tan fy mod tua 11 oed a symud i Pengelli, chwarter milltir i ffwrdd ar ôl y rhyfel.  Bu hiraeth mawr ar ôl Soar, a cherddwn yn aml i ben Rhiw Garth i edrych os oedd popeth yn iawn yno, a mynd i’r Capel ar ddydd Sul.  
 
Byddai tri ‘baker’ (pobydd) yn dod o gwmpas yr ardal, Dic o Drawsfynydd, ac Alun a Morris o’r Penrhyn, a byddai llawer yn dod o amgylch i werthu nwyddau – un o’r Blaenau gyda’i gês bach ac yn gofyn ‘ydach chi eisiau rhyw fanion bethau fel rîls, nodwyddau, dafadd trwsio sana, nets gwallt ayyb’.  Roedd un arall yn dod o gyffiniau Porthmadog gyda throl a merlen fach i werthu llestri o bob math, piser i ddal llefrith, sosbenni ayyb.  Os byddai ‘chamber pot’ wedi colli ei glust, gwaeddai ‘dowch ferched os prynwch chi hwn chlywith o ddim byd ydach chi’n ei wneud’, tra byddai sipsiwn yn dod i werthu pegs a blodau a paraffւn i’r capel. Ia, cymeriad lliwgar iawn oedd Georgi Potiwr.
 
Yr adeg hynny byddai pob cerbyd a ddeuai i Soar yn gorfod mynd i lawr heibio Dolorcan i droi’n ôl, megis y lori paraffin fyddai’n dod â paraffin i’r capel, a’r hers, pan fyddai angladd yn Soar.  Ymhen blynyddoedd daeth dŵr glân i’r tai a charffosiaeth, trydan ayyb, a diolch amdanynt.
 
Byddai'r ‘Home Guard’ yn brysur iawn yn yr ardal ar benwythnosau yn ystod y rhyfel, byddent yn cyfarfod heb fod ymhell o’r Gamfa Gelyn.  Byddai’r ‘air raid shelter’ yn yr ogof tu ôl i Brontrefor - ddim yn siwr faint o ddefnydd a gafodd.  Os byddai rhybudd o ‘air raid’ byddai trigolion Soar yn mynd o dan y bwrdd rhag ofn.  Deuai Mr Lewis, Gwilym House (athro yn yr Ysgol) i roi rhybudd os byddai awyrennau’r gelyn yn agosau.  Byddai’n chwibanu ei wisel, safai yn ymyl Berthen Gron ac yna yr ‘all clear’ ymhen ychydig a phawb yn falch o’i chlywed. 
Erbyn 2023 does ond estron yn byw yn Soar, dim fawr o Gymraeg i’w glywed yno, y capel
wedi’i werthu, y g ymdeithas glos oedd yno unwaith, wedi mynd.  Mae mor drist i mi, a llawer un arall mae’n siwr, yn dal i weld y trigolion yn fy meddwl yn cael sgwrs, nôl eu dŵr glân i gael paned o Ffynnon Secston Ysgoldy.  Mae’n bwysig i’w chadw rhag ei cholli
lad yn werth brwydro drosti.
Frances Griffith
Rhagfyr 2023.