Ganwyd yn Nhy ar y Graig yn Nhalsarnau ar Fai 29ain 1860 i William a Beti Jones. Garddwr oedd ei dad i Mr Barker, Glyn Cywarch.
Pan anwyd JH enillai ei dad bedwar swllt ar ddeg yr wythnos ac ar hynny magwyd un ar ddeg o blant. Er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd byddai ei fam yn ogystal a magu'r plant yn gwnio dilladau i'r ardalwyr.
Cafodd JH ei ddwyn i fyny yn y cyfnod pan nad oedd angen cloi drws y ty. Pan na fyddai eu tad yn bresenol a hwythau fel teulu yn cadw dyletswyddi sef gwasanaeth bychan bob nos a bore, byddai ei fam yn gofyn i un ohonynt osod llwy uwchben y clicied rhag i rywun ddod i ddrysu'r ddyletswydd.
Cofiai JH godi Capel Bethel, capel sydd ar y stryd fawr yn Nhalsarnau a bellach wedi cau ers rhai blynyddoedd. Cofiai Bennett Jones, Bryn y Felin - tad Gwyneth Vaughan, awdur O Gorlannau'r Defaid, Plant y Gorthrwm a llyfrau eraill, yn flaenor yng Nghapel Bethel.
Er y defnyddid y Welsh Not yn yr ysgolion yng nghyfnod JH, nid yw'n cofio ei weld yn cael ei ddefnyddio. Seisnig iawn oedd yr addysg a dderbyniodd ac mae'n nodi mai dyma'r pennill o eiddo Milton a ganent cyn mynd adref o'r ysgol:
Let us, with gladsome mind,
Praise the Lord, for He is kind;
For His mercies, they endure,
Ever faithful, ever sure.
Gan nad oedd ef a'i gyfeillion yn deall y geiriau, na neb wedi trafferthu egluro, dyma sut y canent y llinnell cyntaf:
Lettus, gwydda glas, a maidd . . . . . .
Cyfeiria at y ffaith na chafodd fawr o Gymraeg yn yr ysgol ond roedd ei dad yn berchen ar Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans. Ar ddyddiau Sul nid oedd hawl iír plant ddarllen dim ond cyfrolau crefyddol. Pan g‚i ei dad gyntun cyn mynd i'r Ysgol Sul, byddai JH yn bachu ar y cyfle ac yn mynd a'r Drych i'w ddarllen o dan goeden eirin Mair yng nghefn y ty. Mae'n honni fod ganddo ddyled fawr i Ddrych y Prif Oesoedd.
Cafodd J H Jones brentisiaeth gyda theiliwr ym Mhorthmadog ar ôl gadael yr ysgol. Yna aeth i Birkinhead i ddysgu crefft cysodi. Oddi yno aeth i Swyddfa’r Herald Gymraeg yng Nghaernarfon yn 1882 fel cysodydd. Dychwelodd i ardal Lerpwl yn 1890 i weithio yn Swyddfa’r Cymro ac yn yr un flwyddyn, priododd ag Elizabeth Parry ac mewn cyfnod fe gawsant dri o blant.
Bu’n flaenor Capel MC Parkfield, yng nghapel Woodchurch Road ac yn Laird Street, Birkinhead.
Gadawodd Y Cymro a gweithio fel cysodydd yn Wrecsam, ac yn y cyfnod hwn roedd yn ysgrifennu erthyglau ac ysgrifau wythnosol i bapur Y Genedl tu allan i oriau gwaith arferol.
Yn 1906 cytunodd i gymeryd gofal o bapur wythnosol newydd ar gyfer ardal Lerpwl sef Y Brython..Buan y daeth y papur yn boblogaidd a daeth i gael ei werthu drwy Cymru gyfan. Credai mai ei brif orchwyl oedd amddiffyn gwareiddiad a diwylliant Cymreig. Tra yn ei swydd bu J. H. Jones, yn dyst i'r olygfa yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead yn 1917, pan hysbyswyd mai bardd y Gadair oedd Hedd Wyn, yr amaethwr ifanc o Drawsfynydd, a laddwyd yn y rhyfel yn Ffrainc ychydig cyn hynny. Yr oedd JH yn yr Eisteddfod ar y pryd ac yn nodi profiad mor rhyfeddol o drist oedd hwnnw. Bu’n olygydd y papur dan 1931. Dilynwyd ef gan Y Prifardd Gwilym R Jones a ddaeth yn ddiweddarach yn olygydd Y Faner ar ôl i’r Brython ddod i ben yn 1939.
Ar ôl ei amser yn Y Brython, aeth J H i ddarlithio yn helaeth ac yn 1932 bu ar daith ddarlithio yn Unol Daleithiau America. Yn 1941 aeth i fyw at ei ferch a’i gwr ym Mhenygroes, Sir Gaernarfon ac yno y bu farw ar 23ain Mawrth 1943.
Ymhlith yr hyn a gyhoeddod mai pedwar nodedig:
O’r Mwg i’r Mynydd 1913
Swp o Rug 1920
Moelystota 1932
Gwin y Gorffennol 1938
Cyfeiria JH yn ei lyfr Gwin y Gorffennol sydd yn dangos ei hoffter at yr ardal a’i phobl, at nifer o blant oedd yn cyfoesi ag o pan oedd yn yr ysgol. Mae'n cyfeirio at nifer gan ddefnyddio'r arferiad oedd yn fyw iawn bryd hynny sef ychwanegu enw'r cartref ar ol enw'r plentyn megis Wil Rhyd Goch, Ffranc Ynys Gifftan neu Mathaw Llechollwyn. Mae hefyd yn cyfleu ei hiraeth amdanynt ym mhennill Ieuan Glan Geirionydd:
Pa le, pa fodd, mae heddiw y lliaws yma fu
'N cydchwarae a chyd-ddysgu a chydymgomio’n gu?
Mae rhai mewn bedd yn huno a'r lleill ar led y byd,
Nad oes un gloch a ddichon eu galw heddiw 'nghyd.