Chwilio

Canfod Corff
Canfod Corff Jane Parry Yn Dilyn Damwain Fferi

North Wales Chronicle, (Oct 4th 1862) Cyfieithiad o'r hyn ymddangosodd yn y papur.

PORTMADOC.

ceffyl a throl

CORFF WEDI EI GANFOD. – Bydd ein darllenwyr yn cofio’r trychineb enbyd ddigwyddodd rai wythnosau’n ôl i Fferi Porthmadog, pan ysgubwyd wyth person i ddifancoll heb na meddwl na pharatoad. Cafwyd hyd i’r cyrff i gyd namyn un, sef un Jane Parry, hetwraig, oedd yn byw yn Nhygwyn, ar ochr Meirionnydd o’r afon. Roedd achos y ferch hon yn drist a phruddglwyfus i’r eithaf. Hi oedd prif gymorth ei mam oedd yn weddw, ac roedd hi’n uchel iawn ei pharch gan bawb ac edrychid arni fel merch ifanc ddoeth a da. Roedd hi ar fin bod yn briod â chapten llong lleol a phwrpas ei thaith i Borthmadog oedd i brynu gwisg briodas ac ati, gan freuddwydio am y priodfab a ddisgwyliai amdani.

Ddydd Gwener diwethaf, roedd hen wr o’r enw Griffith Morris, ffermwr bychan yn byw ym Morfa Bychan , yn casglu gwymon ar hyd lan y môr pan ganfu gorff yr ymadawedig yn gorwedd ar y traeth, ac fel y digwyddodd fe’i hadnabu. Cododd y corff a’i gosod yn y drol, ac anelodd yn ddi-oed am Borthmadog i roi gwybod i’r heddlu am yr amgylchiadau. Daeth llawer o bobl i amgylchynu’r drol, ac roedd teimlad o dristwch i’w deimlo gan bawb am farwolaeth mor anamserol.

Aed â’r corff i Eglwys y Plwyf Ynyscynhaearn, i ddisgwyl am drengholiad gan y crwner, o flaen H. Hunter Hughes, Ysw., ddigwyddodd ddydd Sadwrn diwethaf lle nodwyd rheithfarn o “Caed wedi Boddi”