Chwilio

Evan Francis 1772 – 1857

Ganwyd Evan Francis yn 1772 yn Dyrnioga Bach, Talsarnau ym mhlwyf Llanfihangel y Traethau. Mae ei dad a’i fam wedi eu claddu ym mynwent Rehoboth, Harlech, ac ar y garreg fedd ceir y geiriau a ganlyn:
“Francis Evans o Mochras, a fu farw Medi 23 1827. Hefyd Lowri Evans ei briod, a fu farw 12 Medi 1833”

Ym more ei oes roedd Francis Evans, y tad, yn un o’r dynion pwysicaf yn y cylch, oherwydd ei fod yn cadw cwch i gario dros yr afon, o Ty Gwyn i Drwyn y Penrhyn ac i’r Garreg Goch, ac weithiau i Gricieth yn ôl yr angen. Towyn oedd enw’r lle y saif Tremadog a Phorthmadog heddiw. Byddai Francis Evans yn cario nwyddau yn ogystal â phobl ac anifeiliaid.

Roedd gan Francis Evans a Lowri Evans amryw o blant a chredir bod Evan yn un o’r meibion hynaf. Ychydig iawn o addysg oedd yng nghyrraedd y werin yr adeg honno. Ond yn lwcus iawn yr oedd gan yr Eglwys lyfr emynau oedd newydd ddod allan, ac ynddo amryw o emynau William Williams, Pantycelyn. Yr oedd canu mawr ar yr emynau yn Eglwys Llanfihangel a chyrchai plant yno i wrando. Dysgodd amryw ohonynt yr emynau ar eu cof, ac yr oedd Evan Francis yn un ohonynt. Oherwydd prinder dewis manteision nid oedd ganddo ond helpu ei dad gyda’r cwch, ond un dydd daeth awydd arno i fynd i forio, a dyma fo yn ymuno ag un o’r llongau bach a ddeuai i’r Garreg Goch. Bore mawr oedd bore ei gychwyn, mynd yng nghwch ei dad i’r llong, heb feddwl na dychmygu beth oedd yn ei aros - a’i fam yn dweud wrtho, “Mi ddoi yn ôl heno, yn ‘doi?” “Hwyrach y do i,” meddai yntau, a’r peth olaf a ddywedodd ei fam wrth ei dad y noson honno oedd, “Peidiwch â rhoi clo, rhag ofn y daw Evan adref.” Nos drannoeth a ddaeth, a’r fam yn rhybuddio i beidio â chloi. Aeth blynyddoedd lawer heibio heb ddim hanes o Evan, oblegid ni allai ysgrifennu na darllen. Er hynny ni phallai ffydd ei fam, a daliai i ddisgwyl, disgwyl, a’r drws o hyd heb ei gloi.

Hwyliodd Evan i Plymouth ac yno ymunodd ag un o gychod pysgota'r lle, ac mi roedd mab Lewis Edwards, Pensarn hefo fo. Bu’n gwneud y gwaith am flynyddoedd a daeth yn hyddysg yn yr iaith Saesneg. Ond yr adeg honno roedd gwledydd Ewrop fel crochan berw gan helynt Napoleon. Un nos Sul, pan oedd llong Evan yn pysgota oddi allan i Plymouth cymerwyd y criw i gyd yn garcharorion gan long arfog, Ffrengig. Cymerwyd hwy i Ffrainc ac yno y buont am flynyddoedd, nes eu bod yn hyddysg yn yr iaith. Eu gwaith, fel carcharorion oedd cario dwfr mewn llestri pridd ar eu pennau neu mewn cunnod? ar eu cefnau. Gweithient yn agos i gartref Ysgrifennydd Cartref y wlad, ac yr oedd merch y gŵr hwnnw yn ymweld yn gyson â’r carcharorion ac mi roedd yn tosturio drostynt yn fawr iawn. Ond daeth newyn mawr. Gwaethygodd y sefyllfa mor druenus fel penderfynodd y Llywodraeth saethu’r carcharorion i gyd. Pan glywodd am hyn, aeth merch yr Ysgrifennydd Cartref yn syth at ei thad ac erfyn yn daer ac yn wylofus arno am arbediad, a gorfu iddo ofyn i’r Llywodraeth i roi’r bwriad o’r neilltu.

Ar yr un pryd yr oedd Evan Francis yn gweddïo’n ddyfal, ddyfal yn ei gell. Yr oedd yn gweddïo’r hen emyn a ddysgodd ar ei gof yn hen Eglwys Llanfihangel, a’i hadrodd ugeiniau o weithiau’r noson honno. “Disgwyl wyf ar hyd yr hirnos, etc.” Hwyrach mai ateb i weddi’r Cymro oedd y cymhelliad a gafodd y ferch i fynd i eiriol drosto. Y ffaith ydyw, fe’u rhyddhawyd i gyd - peth pur eithriadol - ac fe’u gorchmynnwyd i ddianc trwy wlad Belg. Llwyddasant i wneud hyn a chael llong i’w cludo i Dover.

Daeth i feddwl Evan i gychwyn am ei hen gartref. Roedd golwg sobr arno, wedi ei hanner newynu, yn llwm ei wisg a llwyd ei wedd, heb un geiniog yn ei boced a’r ffordd yn bell i Ddyrnioge Bach, Talsarnau. Ond doedd yna ddim byd i’w wneud ond cerdded y ffordd fawr, bwyta lle cai a chysgu lle medrai. Cymerodd y daith bron i dair wythnos, ac roedd o yn falch iawn pan ddaeth yr hen gastell Harlech i’r golwg. Daeth trwy Harlech ar doriad gwawr, dydd yng nghanol Gorffennaf; ac wedi iddo ddod i’r Llechwedd ac edrych i gyfeiriad ei hen gartref, bu agos iddo â dechrau amau ei hun, gan gymaint y rhyfeddod o weld y Morfa o Harlech, a’r Ynys yn weirgloddiau i gyd. Glastraeth oedd pan gychwynnodd ef oddi cartref. Toc cyrhaeddodd yr hen gartref tua phump yn y bore, a’i rieni yn eu gwely yn y siambar. Meddai’r fam, “Mae rhywun yn dod.” “Ie.” Meddai ei dad. Gwrando ennyd wedyn, ac meddai ei fam, “Tebyg iawn i sŵn traed Evan.” Ar hynny dyma Evan yn gweiddi, “Hei,” “Evan, fy machgen annwyl, ddoist ti?” meddai ei fam. “Do,” atebodd yntau. “Ond i be rydach chi’n gadael y drws heb ei gloi?” “Fy ngwas annwyl i,” ebe ei fam, “Fu dim clo arno er y dydd yr est ti i ffwrdd.” Yr oedd hynny dros bedair blynedd ar ddeg, ond ni phallodd ffydd ei fam, a chadwodd y drws yn ddi-glo ar hyd yr holl amser, i ddisgwyl y mab gartref.

Roedd y môr yng ngwaed Evan Francis a bu’n morio am flynyddoedd lawer. Cyfarfu ac aml i storm chwerw a bu mewn enbydrwydd am ei einioes ar saith cyfanfor. Ond daeth dyddiau henaint at Evan a gorfu arno roi heibio fynd i’r môr. Daeth i Mochras i ddiweddu ei oes, at ei nai Griffith Griffiths (mab ei chwaer). Roedd amryw o gychod pysgota yn y Bar newydd yr adeg hynny a hyfrydwch pennaf Evan Francis oedd cael mynd hefo’r criwiau i bysgota penwaig ac adrodd am yr helyntion y bu drwyddynt.

Daeth ei ddyddiau i ben 4ydd Medi 1857 a chasglwyd yntau at yr hen deulu i Fynwent Rehoboth.

O.N. Diolch i Richard Jones, Morfa am anfon yr hanesyn uchod i Llais Ardudwy. Cafwyd gwybod bod Griffith Griffiths, Mochras yn hen daid i Margaret Wilson, ac yn perthyn hefyd i deulu Llanfairucha’. Enw llawn Gwen, merch Llanfairucha’ oedd Gwen Francis Owen.

O.N. Wyddom ni ddim faint oedd oed Evan Francis yn mynd i’r môr, ond ac ystyried y gallai fod rhwng 15 ac 20 oed yn 1792 ac wedi dychwelyd ar ôl 14 mlynedd, byddai wedi cyrraedd yn ôl tua 1816. Roedd Rhyfeloedd Napoleon rhwng 1800 -1815 ble cafodd ei garcharu. Codwyd clawdd llanw o Ty Gwyn Mawr i Glyn Cywarch yn 1810 fyddai’n eglurhad am y newid syfrdanol welodd Evan Francis pan ddychwelodd yn ôl.