HANES CAPEL BRYNTECWYN ERS 1901
Adeiladwyd Capel Bryntecwyn yn 1901. Cangen o Gapel Methodistaid Bethel, Talsarnau oedd Bryntecwyn, fel Capel yr Ynys, dan ofal Gweinidog Capel Bethel. Yn ddiweddarach yn y ganrif, daethpwyd o dan ofalaeth Dosbarth y Dyffryn gyda Gweinidogion Moreia, Harlech. Y gweinidog cyntaf sy gen i yn fy ngho’ yn Nhalsarnau yw’r Parch R H Jervis, yna wedi dod o dan Ofalaeth Dosbarth y Dyffryn, daeth y Parch Gareth Maelor Jones, y Parch Ben Williams a’r Parch William Williams a chafwyd pregeth ym mhob un o’r tri chapel yn ei dro. Yn ystod y ’70au cynnar cauwyd Capel Bethel.
Tua diwedd y ‘60au, roedd Mr Gwilym Owen, Warden Parc Cenedlaethol Eryri, yn awyddus iawn i ail-ddechrau Ysgol Sul ym Mryntecwyn, a chyda chymorth Ella Wynne Jones, oedd yn help mawr gyda dysgu’r plant i ganu, dechreuwyd gyda phedwar plenty, ond cyn hir roedd y nifer wedi cynyddu a chynhaliwyd Ysgol Sul ar bnawn Sul yn rheolaidd a bu’n lwyddiant am nifer o flynyddoedd. Bu farw Gwilym Owen yn 1973, ond er y golled hon, roedd y plant i gyd yn awyddus i barhau i ddod i’r Ysgol Sul. Bu prysurdeb mawr yma, gyda’r plant yn dysgu aat yr Arholiad Sirol ac Arholiad y Safonau, ac yn mynd i’r Gymanfa yn y Bermo bob blwyddyn; roedd partion a chôr yn cystadlu yn Eisteddfod Talsarnau yn flynyddol - ac yn ennill gwobr gynta’ gyda’r côr plant mwy nag unwaith. Cafwyd tripiaup Ysgol Sul blynyddol – ac un tro mynd cyn belled ag Ynys Manaw efo llong o Landudno! Bu dipyn o grwydro i wahanol fannau a byddai cefnogaeth y rhieni yn ardderchog i gynnal yr Ysgol Sul.
Wedi trafodaeth gyda’r Henaduriaeth, sefydlwyd Capel Bryntecwyn yn eglwys yn 1980, pan gynyddodd y boblogaeth yn ardal Llandecwyn wrth i stâd newydd o dai gael ei adeiladu a nifer o deuluoedd ifanc ddod i fyw i’r ardal. Roedd cynnydd sylweddol yn nifer y plant oedd yn byw yma. Roedd 35 o oedolion yn aelodau ym Mryntecwyn ar ddiwedd 1980.
Ym Mehefin 1982, ordeiniwyd Ella Wynne Jones a Mai Jones yn Flaenoriaid ac yn 1984, etholwyd y swyddogion canlynol :- Mrs Mai Jones (Ysgrifennydd), Mr William Tecwyn Jones (Trysorydd), Mrs Ella W Jones (Ysgrifennydd Gohebol). Yr organyddion oedd Ella W Jones a Mai Jones, Holl Ddynion yr Eglwys oedd aelodau’r Pwyllgor Adeiladau, Mrs Eirlys Williams (Casglwr y Genhadaeth), a Mrs Mai Jones a Mrs Carys Jones (Gofalwyr y Cymundeb).
Yn 1985, daethom o dan Ofalaeth Cangen Deudraeth pan sefydlwyd y Parch Ifan Rhisiart Roberts yn weinidog yn y dosbarth a llwyddwyd i wella llawer ym Mryntecwyn. Gwerthwyd Capel yr Ynys a gwnaed cais am gyfran o’r arian er mwyn cael estyniad i Fryntecwyn trwy ychwanegu cegin a thoiled yn yr adeilad. Dechreuwyd dau Glwb i’r ieuenctid, Clwb Hwyl Hwyr i’r plant lleia’ a Chlwb Chwaraeon i’r rhai hŷn a bu’r ddau Glwb yn hynod o lwyddiannus dan ofal Ifan a Catrin Roberts.
Roedd dwy Ysgol Sul yn cael ei chynnal – un i’r plant hyna’ yn y bore dan ofal Mrs Ella W Jones, ac un yn y prynhawn dan ofal Mrs Mai Jones a mamau eraill; yn arbennig felly Mrs Gwyneth Davies a fu’n ffyddlon iawn i’r Ysgol Sul gyda’i phedwar plentyn yn mynychu’n rheolaidd.
Yn 1991, dechreuwyd Cymdeithas Bro Tecwyn gan gynnal cyfarfodydd misol yn ystod misoedd y gaeaf, Yn 1992, dechreuwyd Clwb y Garth – cyfarfodydd misol eto, yn ystod y pnawn, i henoed yr ardal. Roedd y ddwy gymdeithas yma’n hynod o boblogaidd a pharhaodd Clwb y Garth hyd at 2004, gyda’r Gymdeithas yn dod i ben yn 2008. Y rheswm penna’ am i’r ddau Glwb orffen oedd oherwydd colli aelodau, yn anffodus trwy farwolaeth
Ar ôl saith mlynedd gyda ni, symudodd y Parch Ifan Roberts a’i deulu i Ofalaeth newydd yn Henaduriaeth Dyffryn Clwyd a chafwyd Gweinidog arall yn 1994 pan ddaeth y Parch Ann Jenkins atom. Bu hi gyda ni hyd at Mehefin 1997 pan symudodd i’w Gofalaeth newydd ger Aberystwyth. Buom heb weinidog felly am naw mlynedd ond cariwyd ymlaen a chynnal oedfaon cyson ac Ysgol Sul, gyda nifer fawr o blant yn mynychu ac yn cynnal eu gwasanaethau eu hunain am beth amser. Ond yn anffodus daeth yr Ysgol Sul i ben yn 1999.
Yn 2006, wedi i’r Parch Anita Ephraim fod yn pregethu ar y Suliau ym Mryntecwyn ers rhai blynyddoedd, roeddym wedi dod i’w hadnabod yn dda ac wedi iddi gael ei sefydlu yn Weinidog gyda’r Annibynnwyr ym Methel, Llan Ffestiniog, wedi trafodaeth gyda hi, gwnaed cais i’r Henaduriaeth am iddi gael dod yn Weinidog Rhan-Amser ym Mryntecwyn. Buom yn ffodus iawn o lwyddo a chael Anita yn Weinidog a chynhaliwyd ei Gwasanaeth Sefydlu yma nos Iau, 13 Gorffennaf 2006.
Pleser mawr oedd adrodd bod yr Ysgol Sul wedi ail-ddechrau yn Nhachwedd 2006, trwy frwdfrydedd nifer o famau ifanc y cylch, gyda Carys Evans yn arweinydd.
Parhaodd yr Ysgol Sul am gyfnod ond lleihau wnaeth nifer y plant yn ystod y blynyddoedd diwetha’ gyda gormod o alw ar rieni a’r plant, daeth yr Ysgol Sul i ben. Ond rhaid adrodd bod y plant, dan ofal Mrs Carys Evans, a chymorth eu rhieni, wedi cymryd rhan mewn Gwasanaeth Diolchgarwch a Gwasanaeth Nadolig yn rheolaidd bob blwyddyn, hyd at eu Gwasanaeth olaf ar bnawn Sul, 24 Rhagfyr 2017. Hwn hefyd oedd yr Oedfa olaf gyda’r plant i’r Parch Anita Ephraim wasanaethu.
Parhawyd i gyd-addoli gyda Chapel Soar, Talsarnau ar hanner suliau’r flwyddyn, ac onibai am y cydweithrediad yma, byddai’r nifer llawer llai mewn oedfaon. Roedd Ella Wynne Jones a Mai Jones yn organyddion yng Nghapel Bryntecwyn a Chapel Soar ac yn gwasanaethu mewn angladdau yn y ddau gapel pan fo’r galw.
Bu cyd-weithio rhwydd a braf gydag Anita ers bron i 12 mlynedd. Mae wedi bedyddio babanod yr ardal, wedi priodi aelodau a chynnal gwasanaeth angladdol i nifer o’n haelodau hŷn. Mae’n biti garw fod Capel Bryntecwyn wedi gorfod cau’r drws, ac ein bod ni wedi gorfod terfynu ar wasanaeth Anita fel Gweinidog. Rydym yn ddiolchgar iawn iddi am bob dim – bu’n ffrind da i Fryntecwyn ac fe welwn golli’r cysylltiad yma’n fawr iawn.
Mai Jones
Ionawr 2018