Chwilio

Mae Eglwys Llanfihangel y Traethau wedi ei lleoli ar fryncyn uwchlaw aber yr Afon Ddwyryd. O du allan i'r eglwys mae golygfeydd gogoneddus ar draws yr aber. Mae Moel y Gest, sydd ar draws yr aber, heb fod yn bell gyda thref Porthmadog yn cysgodi yn ei gesail. Draw i'r gogledd mae Moel Ddu a Moel Hebog ac ymhellach wedyn mae'r Wyddfa a'i chriw.