PEGGY CASTELL (PEGGY EVANS, CASTELL DRAENOG)
Gwraig weddw oedd Peggy Evans, yn byw yn Castell (Castell Draenog) gyda’i mab Huw Evans. Collodd ei gŵr yn weddol ifanc; roedd yn gweithio fel cipar yn Glyn Cywarch. Pan fu farw (yn ôl yr hanes gan fy mam) daeth ei deulu a mynd â rhai o’r dodrefn o’r tŷ. (Yr oedd yn perthyn i deulu Meredydd Evans). Roedd pethau’n eitha anodd arni mae’n siwr, yn gloff yn ogystal, ond cymerodd waith fel postman i fynd â’r post o gwmpas yr ardal er mwyn cael dau benllinyn ynghyd. Wrth deithio byddai’n pabwyra ac yn gwneud canhwyllau brwyn ac yn eu gwerthu. Hefyd byddai’n hel cocos yn y traeth, yn eu berwi ac yn malu cregyn i’r ieir. Byddai olion y cregyn i’w gweld o gwmpas y buarth, pan oeddem ni’n blant yn chwarae (cael calsiwm i’r ieir mae’n debyg). Beth sydd gan yr oes yma i gwyno yn ei gylch tybed?
O’i phrinder byddai’n arbed ychydig arian er mwyn prynu llyfryn misol i Huw, er mwyn iddo gael addysg a gwella ei hun. Byddai’n mynd i’r Penrhyn unwaith y mis i’w brynu. Daeth rhai o’r ardal i wybod am hyn, rhai a oedd mewn awdurdod, ac fe ddaeth arian y plwyf i ben, gan ddweud wrthi os oedd hi’n gallu fforddio prynu llyfr 6ch y mis, doedd dim angen help arni. Ond llwyddodd Huw i gael mynd yn grefftwr reit fedrus fel saer yn yr ardal, er gwaethaf pawb a phopeth. Methu deall sut roedd y rhai mewn awdurdod yn medru cysgu’r nos.
Bu Huw Evans yn byw yn tŷ cyntaf Fronyw ac roedd ei wraig yn gweithio fel cogyddes yng Nghaerffynnon. Tŷ bach twt iawn meddai’r son oedd y Castell, yn y cae gyferbyn a Rhiw Garth a mynd iddo o’r ffordd gyferbyn â Gwinllan fach a thros y gamfa gyferbyn â Chapel Fawnog. Murddun oedd pan oeddem ni’n blant, ond cofio’r rhosod pinc yn tyfu yno. Roedd yr ardd i fyny’r llwybr gweddol serth tu ôl i’r tŷ. Byddai coed eirin, eirin mair a cyrants duon yn dal i dyfu yno ac olion rhesi tatws i’w gweld. Tyfai briallu Iwerddon a blodau colomen (Aqueligia).
Yn meddwl ei bod yn chwaer i Beti Jones, y Gwndwn, fy hen hen Nain Gwndwn. Sonnir am Peggy yn Corlannau’r Defaid, Gwyneth Vaughan. Bu Peggy Evans, Castell farw yn 1898 yn 74 oed, wedi’i holl dreialon.
CARCHARORION RHYFEL
Yr oedd carcharorion rhyfel yn gweithio ar y ffermydd lleol. Roedd Mimi yn helpu yn Brontrefor, Mario Appeli (neu Napoli - Eidalwr) yn Tŷ Mawr, Toni o Poland yn Cefntrefor Fawr. Roedd Eidalwr arall yn Cefntrefor Fawr hefyd. Albert Stumpp (Almaenwr) yn Rhosigor, Walter Paslett (Almaenwr), yn Fuches Wen, Willie (Almaenwr) yn Llechollwyn. Arhosodd Toni yn yr ardal a daeth ei wraig drosodd ato ac roeddynt yn byw ym Mhenrhyn-deudraeth. Bu’r ddau yn gweithio ym Mronygarth, a magu 3 neu 4 o blant (Toni Budski). Maent i gyd yn siarad Cymraeg iawn. Arhosodd Albert Stumpp yn yr ardal a phriodi Eirlys Ridley, merch Tyddyn Sion Wyn. Magodd ddau o blant yn Gymry Cymraeg. Bu’r teulu’n byw ym Moel y Glo cyn symud i Harlech (Maria ac Edward oedd y plant).
Arhosodd Walter Paslett hefyd, priododd fodryb i Eirwen Roberts, Maes Trefor, Talsarnau a buont yn byw yn y ‘Bryn’ Talsarnau am gyfnod.
Byddai’r carcharorion o’r Eidal, os caent hanner cyfle yn yr Haf, yn cael siesta yn y cae gwair, gan mai felly roeddynt wedi arfer yn eu gwlad eu hunan.
PLANT YSGOL TALSARNAU
Cerdded fyddai’r plant i’r Ysgol yn Nhalsarnau, rhai yn cerdded mor bell â Tynbwlch, Ffridd Fedw, Eisingrug, yr Ynys, Soar ac yn y blaen, ar bob tywydd. Os byddai’n glawio, byddent yn wlyb at eu croen ar rhai adegau. Nid oedd son am ‘dacsi’ i gario plant cyn y rhyfel. Doedd dim son am wres canolog chwaith yn yr Ysgol, dim ond tân agored ym mhob dosbarth. Byddai taid John Philip yn glanhau’r Ysgol ac yn gwneud tân yn y bore.
Yn y Gwanwyn a’r Haf byddem yn dysgu llawer am fyd natur wrth gerdded trwy’r Gelli i’r Ysgol. Byddai aml i wiwer goch yno yr adeg hynny yn neidio o goeden i goeden, a nythod adar wrth gwrs, Byddem yn chwarae tic, rownderi, sgipio, ‘London’, a neidio rhaff yn yr iard. Byddem yn chwarae llawer ar ôl mynd adref, yn gwneud tŷ bach, cael unrhyw gwpan, soser, plât wedi torri, addurno’r lle hefo’r tegins (llestri wedi malu), a chael hwyl fawr.
SYRCAS YN NHALSARNAU
Cofio syrcas yn dod i Dalsarnau, cael ei chynnal yn Cae Ship; pob math o wahanol eitemau yn cael eu dangos a phob math o driciau. Cofio byddai ganddynt ferlen fach yn mynd o amgylch y cylch a byddai ei pherchennog yn gofyn i’r ferlen – ‘Pwy oedd yn pi pi neu wlychu’r gwely’? – byddai’n stopio o flaen rhywun ac ysgwyd ei phen. Byddem ofn ofnadwy iddi stopio o‘n blaenau ni! Fe ddaru mwnci bach ddianc a bu ar goll am ddyddiau lawer, pawb yn chwilio amdano, ond cafodd ei ddal o’r diwedd yn y Gelli. Pwy fyddai’n ei feio am fod eisiau byw yn Nhalsarnau? – Ginger oedd ei enw
BERTIE WYATT
Daeth ei dad i’r ardal hefo ceffylau polo un o feibion Plas Tan y Bwlch. Roedd ar wyliau o un o golegau Lloegr, Caergrawnt neu Rydychen. Gorchwyl Mr Wyatt oedd gofalu am y ‘Polo Ponies’ a’r cyfnod hwnnw byddant yn chwarae polo ar Ffridd Rasus ger Harlech, lle maent yn rhoi sbwriel y Sir yn awr. Cynhelid rasus ceffylau yno yr amser hynny ac mae adfeilion y ‘grandstand’ i’w weld heddiw. Ymhellach ymlaen, collodd Mr Wyatt ei goes yng ngwasanaeth teulu Plas Tan y Bwlch, priododd ac adeiladwyd tŷ iddynt ‘The Middle Lodge’ a bu yng ngofal ceffylau y Plas weddill ei fywyd.
Ganwyd iddo ef a’i wraig ddau o blant – Bertie a Winnie. Cawsont eu haddysg yn Ysgol Maentwrog, ac er eu bod o deulu Seisnig, roedd y ddau yn rhugl yn y Gymraeg, er yn drwsgl weithiau.
Yn groes i’w ddiddordebau, rhoddwyd Bertie i weithio yng ngerddi’r Plas, er mai peiriannau oedd ei brif ddiddordeb, ac os byddai injian ddyrnu yn y cyffiniau, yno yr hoffai Bertie fod. Yr amser hynny byddent yn dyrnu yn ‘Home Farm’ Tan y Bwlch am dri diwrnod ac anodd oedd cael Bertie oddi yno, yn ôl William Owain, gôf Tan y Bwlch.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n gweithio fel ‘Special Constable’, oedd yn waith wrth ei fodd ac edrychai’n dda yn ei wisg gan ei fod yn ddyn reit dal. Priododd â Cassie, merch Capel Fawnog, Talsarnau a buont yn byw yn Penrallt, Soar am weddill eu hoes. Trwsio beics modur oedd ei waith, ynghyd â chlociau ac oriawroriau. Ar y Sul â i’r eglwys – Eglwys Crist (dros y ffordd i Garej Honda heddiw) ac yn y pnawn deuai dynion i Soar hefo’i beiciau modur i gael eu trwsio. Doedd hyn ddim wrth fodd pobl Capel Soar sydd mor agos i Penrallt!
Bu Winnie yn gweithio i ffwrdd fel ‘Ladies maid’ – nid gweini fel llawer o’i chyfoedion. Treuliodd ran olaf ei hoes ym mhentref Maentwrog a byddai’n dod ar y bws i ymweld â Bertie yn Nhalsarnau.
BERTIE WYATT eto
Yn ystod y rhyfel byddai Mr Bert Wyatt yn ‘Special Constable’ ac yn byw yn Soar. Nid oedd wiw i ni fod a rhimyn o olau yn dangos drwy’r llenni na fyddai cnoc ar y drws yn bur sydyn. Byddai’n mynd o amgylch yr ardal hefo’i feic. Sais wedi dysgu Cymraeg yn rhugl oedd Bert Wyatt a daeth i fyw gyda’i chwaer o Loegr at ei dad oedd yn arddwr gwych ym Maentwrog.
Ar ôl y rhyfel ei waith oedd trwsio ‘Beics Modur’ – deuai llawer ato am help a’i gael, ei ffefryn oedd y ‘Panther Mawr’. Ai o gwmpas hefo’r ‘Panther’ i drwsio clociau yn yr ardal. Un tro cafodd ei alw i Morfa Harlech gan wraig – y cloc mawr wedi torri. Wrth gwrs aeth Bert Wyatt yno rhag blaen ac archwilio’r cloc a dyma fo’n dweud wrthi “does rhyfedd fod o wedi stopio Mrs, mae’r ‘engineer’ wedi marw i mewn ynddo”, a thynnodd lygoden farw o’r cloc!
Pan yn gweithio yn y sied daeth gang o Saeson heibio a dechrau lladd ar y Cymry ac meddant “you bloody Welsh”. “No” meddai’n reit sydyn “I’m a bloody Englishman like you”. Da iawn Bert Wyatt, chwarae teg iddo.
WMFFRA OWEN, DRAENOGAU BACH (a ‘Queen’ a ‘Prince’)
Ffermwr wrth ei alwedigaeth oedd Wmffra Owen, yn byw yn Draenogau Bach, Talsarnau. Dyn bychan o daldra ond yn llond eu groen, yn rhadlon wrth natur. Cadwai was a’i weithiwr yn barchus ohono ac yn hapus yn ei gwmni. Cadwai ddau geffyl ‘Queen’ a ‘Prince’ at y gwaith, ond nid yn unig ffermwr oedd Wmffra Owen.
Pan fyddai angladd yn yr ardal, byddai yno ei siwt smart a het galed ddu ar ei ben, yn gyrru’r hers gyda Queen a Prince yn ei thynnu. (Cedwid yr hers yn ‘cwt yr hers’ sydd ar ben rhiw mawr ac o dan clawdd Capel Graig). Byddai hefyd yn cario blawd a nwyddau o amgylch yr ardal, gyda help Queen a Prince.
Wmffra Owen, Draenogau Bach fyddai hefyd yn dod o amgylch yr ardal i hel carthion. Byddai’n “Local Board” diwrnod arbennig i bob ardal; deuai pawb â’u bwcedi i lawr o’r gerddi i’r ffordd - yn top yr ardd fyddai’r ‘tŷ bach’. Fel arfer doedd dim ‘toilet rolls’ yn yr oes hynny, torri papur newydd yn sgwariau bach a’i hongian ar fachyn, felly roedd rhan fwyaf yn gwneud tan ddaeth carffosiaeth i Soar a llawer ardal arall. Newidiodd byd i drigolion yr ardal.
Ar fore dydd Sadwrn byddai gyda’i drol a Queen neu Prince i’w gweld wrth dalcen y Ship yn gwerthu bwndeli o foron am 6c a rheiny’r moron gorau a blasus a gaed yn unman.
Na, nid dim ond ffermwr oedd Wmffra Owen!