Chwilio

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH 19.02.24

YMDDIHEURIADAU
Dim

PRESENNOL
Cyng. Owen Lloyd Roberts (Cadeirydd), Lisa Birks (Is-Gadeirydd), John Richards, Eluned Williams, Ffion Williams, Sian Mai Ephraim, Eifion Williams, Ann Jones, Dewi Tudur Lewis, Margaret Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

Croesawodd y Cadeirydd Mr. Simon Dawson un o aelodau Bwrdd HAL i’r cyfarfod. Ar ran HAL diolchodd Mr. Dawson i’r Cyngor am eu cyfraniadau dros y blynyddoedd ag hefyd bod Cadeirydd Bwrdd HAL wedi derbyn e-bost ar ran y Cyngor yn gadael iddynt wybod eu bod ddim yn cario ymlaen o fis Ebrill eleni i gyfranu o dan y cynllun precept. Cafwyd wybod ganddo bod HAL wedi derbyn grantiau i gario allan gwahanol archwiliadau a mae rhain yn cymeryd lle ar hyn o bryd. Fe gafwyd rhai cwestiynau gan Aelodau y Cyngor a diolchodd y Cadeirydd i Mr. Dawson am ddod i’r cyfarfod.

Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd ar Cyng. Eifion Williams a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei frawd yn ddiweddar.

DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 15ed 2024 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI O’R COFNODION
Angen dileu llinellau 4 a 5 o’r cofnodion lle oedd HAL yn cael ei drafod.

MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £26,665.24 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £393.98 llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.

Cae Chwarae y Pentre
Adroddodd y Cyng. Lisa Birks bod cwmni Creative Play wedi cwblhau gosod “wet pour” ar weddill y parc chwarae a bod y safle yn edrych yn dda iawn. Cytunwyd I dynnu llun o’r safle pan yn gyfleus a’I anfon I Llais Ardudwy.

LLinellau Melyn
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen fod ef a’r Cyng. Dewi Tudur Lewis wedi cyfarfod Swyddog o Gyngor Gwynedd ar y safle I drafod yr uchod ag hefyd ‘roedd cynllun wedi cael ei anfon I’r Clerc ag ‘roedd yr Aelodau yn unfrydol yn fodlon hefo’r cynllun oedd wedi cael ei dynnu allan. Cafwyd wybod bod Cyngor Gwynedd wedi datgan na fydd yr Adran Priffyrdd yn gosod arwydd “Dim Parcio Dros Nos” ger y cyn Gapel Soar a cytunwyd anfon at Adran Eiddo, Cyngor Gwynedd I gwyno am y cyflwr bler yn yr ardal hon.

Seddi Cyhoeddus
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi trwsio y sedd ger Eglwys Llandecwyn ag hefyd cytunwyd gofyn i Mr. Gwion Roberts beintio y sedd ger Eisingrug. Adroddodd y Clerc ei bod wedi gofyn unwaith yn rhagor i Mr. Meirion Griffiths dynnu y sedd wrth Gwyndy a gosod y sedd sydd yn y garej yn ei lle.

423.............................................Cadeirydd

 

 

Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Cyng. John Richards bod ddim byd pellach I’w drafod ynglyn ar uchod ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

HAL
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi mynychu cyfarfod a oedd wedi ei gynnal yn y neuadd bentref, Llanbedr ar yr 14eg o’r mis hwn rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal er mwyn cael trafod y ffordd ymlaen gyda HAL.
Roedd y Clerc wedi anfon copiau o gyfrifon HAL i fyny at ddiwedd mis Rhagfyr y llynedd i bob Aelod ac hefyd adroddodd bod cyfarfod arall yn mynd i gael ei gynnal rhwng y Cynghorau Cymuned a HAL ar yr 22ain o’r mis hwn. Cytunodd y Cyng. Sian Ephraim yn byddai yn mynychu y cyfarfod hwn os byddai yn gallu. Datganodd y Cyng. Gwynfor Owen bod Corff Llywodraethwyr Afon Dwyryd yn siomedig gyda penderfyniad y Cyngor i beidio a cario ymlaen i dalu cyfraniad precept i HAL oherwydd bod plant yr ysgol gynradd yn cael gwersi nofio yna. Cytunwyd i beidio a trafod y mater hwn eto nes byddai unrhyw newidiadau wedi cael ei wneud yna.

MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – adroddodd o ddydd Llun Chwefror 12fed bydd amserlen newydd ar ddydd Sul a Gŵyl y Banc yn cael ei chyflwyno ar Wasanaeth Bws G23 a bydd 4 taith y dydd ar ddydd Sul a Gŵyl y Banc a bydd yn gweithredu rhwng Abermaw, Harlech a Phorthmadog a bydd cysylltiadau gyda Gwasanaeth TrawsCymru T3 ar gael yn Abermaw. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Lloydscoaches.com/serviceup-date/servicechanges. ‘Roedd wedi derbyn ateb gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar gwaith oedd yn cael ei gario allan y LLandecwyn ar ffaith bod y bariau coch ar hyd ochor y ffordd yn beryg a oedd yn datgan eu bod wedi cysylltu gyda’r cwmni O’Connor Utilities yn gofyn iddynt gynnal y rhwystrau gan ychwanegu mwy o fagiau tywod ag ‘roedd hyn wedi cael ei wneud. Hefyd yn datgan bod y gwaith I fod I ddod I ben ar yr hwyraf ar y 14eg o’r mis hwn. Ar ol derbyn e-bost a llun gan y Cyng.Dewi Tudur Lewis ynglyn a chyflwr llwybr y wern ‘roedd wedi ei basio ymlaen I’r Swyddog LLwybrau a wedi derbyn ateb oedd yn datgan eu bod yn mynd I geisio clerio y draeniau I sicrhau fod y dwr yn llifo mor sydyn a phosib o du ol y sarn sydd wedi ei greu ar drywydd y llwybr. Hefyd ‘roedd wedi mynychu cyfarfod gyda’r Heddlu yn Bermo ar y 13eg o’r mis hwn.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen mae’n debyg bydd treth y cyngor yn mynd I fyny I 10% gyda thoriadau o £8 miliwn a bydd y flwyddyn ariannol nesa yn waeth. ‘Roedd wedi mynychu cyfarfod Grwp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth y Cyngor ag hefyd cyfarfod gyda’r Awdurdod Tan a wedi cael gwybod byddant yn rhoi 4% ar dreth y Cyngor.

CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £6,162.40 yn y cyfrif rhedegol, a £29,405.76 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis
B.T - £39.59 - lein ffon camerau CCTV (10.2.24)
Creative Play - £21,816.00 - gwaith adnewydd cae chwarae Gwynfor John (ail ran)
Mr. M. J. Kerr - £460.00 - agor bedd y diweddar Mr. Robert Major (ail agor)
Llais Ardudwy - £20.00 - hysbyseb tenderau torri gwair (rhifyn Chwefror 2024)

Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy – £1,785.00 (cyfraniad misol x 5)
Adroddidd y Trysorydd bod gan y Cyngor 5 taliad i’w wneud i’r uchod cyn dod ar cyfraniadau hyn i ben diwedd mis Mawrth a cytunwyd i dalu rhain i gyd yn nawr.

 

424..............................................Cadeirydd

 

 

 

Cytunwyd bod y Trysorydd yn trosglwyddo £20,000 o gyfrif cadw y Cyngor i’r cyfrif rhedegol.

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Lisa Birks a wnaeth y Cyng. John Richards gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod. Cytunwyd I drosglwyddo swm o arian o’r cyfrif cadw I’r cyfrif rhedegol.

Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Chwefror)
Cylliad a Thollad - £476.01 – ad-daliad T.A.W.

Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai y Tim Archwilio Mewnol yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni ag ei bod wedi cytuno i gario allan y gwaith hwn.

GOHEBIAETH
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.

UNRHYW FATER ARALL
Cytunwyd bod angen cysylltu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i adael iddynt wybod bod y ffens rhwng y neuadd ar tai angen sylw.
Eisiau cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd i dynnu eu sylw bod y gwrych ger Bryn Moel wedi gor-dyfu ag yn ymharu ar gwelededd y rhai sydd yn ceisio dod i’r ffordd ger groesffordd Cilfor ag hefyd eisiau gofyn iddynt osod y drych diogelu yn nol oherwydd bod hwn wedi diflanu yn dilyn y gwaith diweddaraf sydd wedi cael ei gario allan.
Datganwyd pryder bod llanast tu allan i garej Capel y Graig a cytunodd y Cyng. John Richards ddelio gyda’r mater hwn.
Cafwyd wybod bod yr arwydd llwybr cyhoeddus wedi diflanu ger Trem y Garth a bod angen ei ail osod.
Gofynnwyd a oedd ceffyl yn cael mynd ar hyd llwybr cyhoeddus neu ddim ond ar lwybr ceffyl. Yr ateb oedd na ond bod ganddynt hawl cerdded ceffyl ar hyd llwybr cyhoeddus.
Datganwyd pryder bod y gamfa byth wedi cael ei thrwsio ar llwybr y clawdd llanw ger y stesion.
Datganwyd siom bod rhai yn cael eu gwrthod rhag cerdded ar hyd y llwybr cyhoeddus sydd yn mynd o Eglwys Llanfihangel y Traethau draw am Lechollwyn.
Datganwyd siom a phryder bod y llinellau gwyn byth wedi cael eu ail beintio ar groesffordd Llandecwyn.
Cafwyd wybod bod y culvert wrth Stabl Mail o ochor Talsarnau wedi blocio.
Datganwyd siom bod llwybr Llyn Techwyn wedi cael ei gau ar fyr rybudd ag hefyd heb arwyddion yn datgan hyn.

 

ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd

DYDDIAD...................................................... 425